Ymweld â

Chaerdydd

Prifddinas Cymru

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Croeso i’r Brifddinas!


Mae Caerdydd yn ferw o ddigwyddiadau ac atyniadau cyffrous sy’n addas i bobl o bob oedran a phob poced. Ymgollwch mewn diwylliant, mwynhewch ychydig o siopa neu manteisiwch ar y cyfle i ymlacio mewn un o nifer o leoliadau prydferth.

Gyda chymaint i’w weld ac i’w wneud, efallai y byddwch am aros am sbel yn y ddinas. Mae dewis da o westai, o westai sba moethus i lety cyffyrddus rhatach – mae digonedd o ddewis.

Anturiaethau Eraill i’w Darganfod

Mae’r opsiynau’n ddiddiwedd ond dyma ambell i syniad i’w hychwanegu at eich rhestr i gyd-fynd â’ch ymweliad â Chronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien. I gynllunio diwrnod i’r brenin neu arhosiad byr, ewch i Croeso Caerdydd am fanylion.

Uchafbwyntiau


Bae Caerdydd

Diolch i Forglawdd Caerdydd, datblygiad glan dŵr mwyaf Ewrop, mae’r porthladd a fu gynt yn borth diwydiannol prysur bellach yn ganolfan llawn berw diwylliant a chysylltiadau cymunedol. Mae Llwybr y Bae yn cynnig llwybr cylchol 10k o amgylch y bae, sy’n ffordd wych o weld y cyfan sydd gan yr ardal i’w gynnig, gyda llwyth o fariau, caffis a bwytai i’ch cynorthwyo ar eich siwrnai, ac adeilad eiconaidd Canolfan Mileniwm Cymru wrth gwrs!

• AM FANYLION •

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae mynd am dro yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru fel ‘mynd am dro o gwmpas Cymru’. Mae’n mynd â chi ar siwrnai trwy hanes y wlad a’i phobl. Cewch ddysgu am dreftadaeth a diwylliant Cymru o oes y Celtiaid hyd heddiw. Yn sefyll ar diroedd Castell mawreddog Sain Ffagan, plasty o ddiwedd y 16eg ganrif, yr amgueddfa yw un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

• AM FANYLION •

Castell Caerdydd

Mae Cymru’n enwog ar draws y byd am ei chestyll. Wrth gamu i mewn i Gastell Caerdydd, cewch gychwyn siwrnai trwy ddau fileniwm o hanes. Cewch ddarganfod stori hudolus sy’n ymestyn o ddyddiau’r Rhufeiniaid i’r Goncwest Normanaidd, ac o gythrwfl y rhyfeloedd cartref i drawsnewidiad hynod Oes Fictoria. Cadwch lygad am ei raglen o gerddoriaeth a digwyddiadau hefyd…

• AM FANYLION •

Ynys Echni

Yn gyfoeth o fywyd gwyllt ac yn frith o hanes, mae’r amgylchedd unigryw yma oddi ar arfordir Caerdydd yn cynnig byd o lonyddwch a golygfeydd godidog. Bydd ymweliad dydd ar y cwch yn caniatáu i chi dreulio rhwng tair a chwech awr ar yr ynys, lle gallwch brynu pecyn i’ch tywys eich hun ar daith o’r ynys, neu fynd ar daith am ddim gyda thywysydd ar ddyddiadau penodol. A chofiwch ymweld â Thafarn mwyaf deheuol Cymru, The Gull & Leek!

• AM FANYLION •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU