Ymgolli ym

Myd Natur

yng Nghaerdydd

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Natur yng Nghaerdydd

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn rhan annatod o seilwaith gwyrdd a glas Caerdydd.

Mae’r cymysgedd o gynefinoedd glaswelltir, coetir, prysg a glan dŵr yn darparu cyfleoedd ar gyfer pob math o fywyd gwyllt a byd natur. Mae dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar y safle, ac mae llawer o’r glaswelltir a’r coetir y tu hwnt i’r SoDdGA wedi eu dynodi’n Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SoBeCN).

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn un o bedwar coridor gwyrdd a amddiffynnir i mewn i’r ddinas, sy’n cysylltu’r dirwedd drefol â’r coetir hynafol yn y gogledd.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn cynnwys dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sydd o bwys ecolegol cenedlaethol. Dynodwyd Cronfa Ddŵr Llys-faen yn SoDdGA am yr adar dŵr sy’n dod i dreulio’r gaeaf yma, ac mae SoDdGA Argloddiau Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien o bwys arbennig am eu casgliad amrywiol o ffwng glaswelltir sy’n cynnwys hyd at 25 rhywogaeth o ffwng cap cwyr.

Safleoedd o Bwys er Cadwraeth Natur (SoBeCN)

Mae Cronfa Ddŵr Llanisien yn bwysig oherwydd ei phoblogaeth helaeth o lyffantod du a phresenoldeb planhigion dŵr sy’n brin yn lleol. Mae’r llethrau cerrig sy’n amgylchynu’r gronfa’n cynnal poblogaethau o gen sydd o bwys yn lleol, a nifer o fwsoglau sy’n anghyffredin yn yr ardal leol.

Mae’r glaswelltir a’r prysg o amgylch Cronfa Ddŵr Llanisien yn bwysig oherwydd y poblogaethau o nadredd llwyd a phryfed tân sy’n byw yno.

Mae’r coetir yn y de wedi ei dynodi hefyd, ac mae’n cynnwys ffen Gwern. Coed Derw/Gwern a Bedw sydd yn y gorllewin, ac maent oll yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt.

Cŵn yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Dim ond yn ardal y ganolfan ymwelwyr a’r maes parcio y caniateir cŵn, ac ni cheir mynd â nhw i unrhyw ran arall o’r safle, gan gynnwys y llwybrau.

Rydyn ni’n gwybod y bydd y newyddion yma’n siomi llawer o’r trigolion cyfagos a hoffai fynd â’u cŵn am dro yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, ond mae angen i ni gymryd unrhyw fygythiad i ddynodiad y safle fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) am ei ffwng cap cwyr prin o ddifri.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ein cynghori y byddai cŵn yn peri gormod o risg i’r ffwng. Mae ffwng cap cwyr yn sensitif iawn i newidiadau yn eu cynefin fel amrywiadau yn lleithder y pridd, y tymheredd a lefelau’r nitradau sy’n gallu lleihau cynhyrchiant ffrwyth y ffwng. Yn benodol, gall newidiadau sydyn yn lefelau’r nitradau ar y safle – o droeth cŵn yn benodol – gael effaith niweidiol ar y ffwng.

Dylid nodi nad yw’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn cymorth.

Uchafbwyntiau Natur a Bywyd Gwyllt

Mae’r safle’n gartref i amrywiaeth o rywogaethau a amddiffynnir gan gynnwys nadredd llwyd ac ambell i ddyfrgi. Mae ystlumod yn bwydo ar y safle ac yn y gorffennol cofnodwyd ystlumod yn clwydo. Gosodwyd blychau ystlumod o gwmpas y safle er mwyn denu ystlumod i glwydo yn y goedwig.

Ymysg y rhywogaethau nodedig eraill mae’r llyffant du, y broga a’r fadfall ddŵr balfog. Cofnodwyd pryfed tân a dallnadredd ar y safle hefyd.

Trwy gyflwyno hafan bywyd gwyllt a rheoli prysg glaswelltir, rydyn ni’n gobeithio helpu’r rhywogaeth i lewyrchu ar y safle unwaith eto.

Uchafbwyntiau Natur a Bywyd Gwyllt

Y Coetir

Crwydrwch ein llwybrau natur yn y coetir lled-hynafol a’r coetir mwy diweddar ar y safle. Holwch am ein parth addysg a’n Hafan Bywyd Gwyllt…

• AM FANYLION •

Adar ac Adarydda

Mae’r cymysgedd o gynefinoedd coetir, glaswelltir a glan dŵr yn golygu bod yr ardal hon yn gyfoeth o adar. Darganfyddwch yr adar sy’n ymgartrefu yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien.

• AM FANYLION •

Ffwng

Mae argloddiau Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien o ddiddordeb arbennig am eu poblogaethau sylweddol o ffwng glaswelltir, ac yn arbennig y cap cwyr prin.

• AM FANYLION •

Planhigion a Phryfed

Mae blodau gwyllt yn llewyrchu yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, fel roedden nhw’n arfer ei wneud yn y dolydd gwair ers lawer dydd, ac maen nhw’n denu amrywiaeth o bryfed, yn enwedig gloÿnnod byw.

• AM FANYLION •

Pwyll Piau Hi

I’n helpu ni i amddiffyn yr holl fywyd gwyllt yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, cymrwch ofal wrth gerdded o gwmpas y safle.

Cadwch at y llwybrau bob amser a pheidiwch â mynd ar y glaswellt.

Cadwch draw o’r llwybrau sydd ar gau yn dymhorol.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU