

Does yna ddim ffordd well o gofleidio ysbryd y Nadolig nac yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yng Nghaerdydd. Dim ots a ydych chi’n cynllunio noson llawn hwyl gyda ffrindiau neu frecwast hudolus gyda Siôn Corn i’r teulu, mae yna rywbeth i bawb.
Dechreuwch dymor y dathlu nos Wener 5 Rhagfyr gyda phryd tri chwrs (£50.00 yr oedolyn, £25.00 y plentyn). Gall grwpiau â 20+ o westeion fwcio ar gyfer nosweithiau eraill hefyd – cysylltwch â’r ganolfan ymwelwyr yn uniongyrchol am fanylion.
Dewch i weld Siôn Corn yn cyrraedd ar ei gwch cyflym a mwynhau brecwast tymhorol ar ddyddiadau penodol ym mis Rhagfyr. Mae’r fwydlen yn cynnwys danteithion fel tomen o grempogau gyda bacwn a sudd masarn, a waffls bach. Mae’r prisiau’n dechrau o £22.95 y pen; am ddim i blant o dan 2 oed.
Nos Sadwrn, 20 Rhagfyr, mwynhewch bryd tri chwrs wrth i Siôn Corn alw draw i godi’r cyffro a lledu ysbryd yr ŵyl. Mae’r fwydlen yr un fath â Nos Wener Nadoligaidd, a’r pris yw £55 yr oedolyn, £30 y plentyn.
Mae Bwydlen y Bwffe Nadolig yn cynnig danteithion y tymor fel pwdinau cytew bach, pasteiod tatws stwnsh, a soch mewn sach am £40.00 yr oedolyn, £20.00 y plentyn. I gadw bwrdd, cysylltwch â’r ganolfan ymwelwyr ar 02920 740454 neu lisvaneandllanishen@dwrcymru.com.