
Coedwig Rhyd-y-Pennau
Coedwig gymharol ifanc a llaith yw hon â nifer dda o goed gwern. Mae’r goedwig wedi cael ei chyfoethogi trwy glirio’r llawr-sirian goresgynnol ac anfrodorol, ac adfer pyllau’r coetir.
Mae rhan o’r goedwig wedi cael ei neilltuo ar gyfer gweithgareddau addysg ac mae yna hafan i fywyd gwyllt hefyd, sydd wedi ei ddynodi’n lloches i fyd natur ac sydd ar gau i’r cyhoedd er mwyn amddiffyn bywyd gwyllt a bioamrywiaeth Caerdydd. Cadwyd y coed sydd â photensial ar gyfer clwydo o amgylch y pyllau a phentyrrwyd boncyffion er mwyn creu lle i greaduriaid di-asgwrn-cefn lewyrchu a chreu cynefinoedd ychwanegol.
Gellir gweld golygfeydd ar draws yr hafan bywyd gwyllt o’r llwybr isaf neu o lwybr uchaf Cronfa Ddŵr Llanisien.
Mae yna ardal hamdden hefyd â mynediad i’r cyhoedd a llwybrau natur.
Coedwig Gwern-y-Bendy
Mae’r coedwigoedd yma ar ochr orllewinol Cronfa Ddŵr Llanisien yn cynnwys coed derw, gwern a bedw lled-naturiol. Mae yna ardaloedd o blannu masnachol, ond mae’r safle’n cynnwys fflora daear fel a welir mewn coedwigoedd hynafol lled-naturiol.
O dan y coed, mae yna gymysgedd bendigedig o blanhigion y goedwig, gan gynnwys blodau’r gwynt, clychau’r gog, clustiau’r arth a chwlwm cariad.