Dysgu

Sesiynau Blasu

Gwella

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Sesiynau Blasu

Os ydych chi’n awyddus i gael sesiwn fwy strwythuredig gyda hyfforddwr cymwys, rydyn ni’n cynnig sesiynau blasu rhwyf-fyrddio, hwylio, canŵio a chaiacio nawdeg munud o hyd.

Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gael blas ar weithgaredd newydd neu wella eich sgiliau gydag adborth gan hyfforddwyr arbenigol. Darperir yr holl offer, felly dim ond angen dod gyda thywel, gwisg nofio a gwên sydd rhaid.

Rhwyf-fyrddio

Agorwch y drws ar fyd cyffrous o hwylio, camp sy’n enwog am ei hamrywiaeth a’i phosibiliadau di-ri.

• MANYLION PELLACH •

Canŵio / Chaiacio

Dim ots a ydych chi’n dewis canŵ traddodiadol neu gaiac mwy ystwyth, bydd dyfroedd llonydd Cronfa Ddŵr Llanisien yn cynnig y cefndir perffaith ar gyfer eich antur padlo.

• MANYLION PELLACH •

Hwylio

Agorwch y drws ar fyd cyffrous o hwylio, camp sy’n enwog am ei hamrywiaeth a’i phosibiliadau di-ri.

• MANYLION PELLACH •

Pwyll Piau Hi

Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r amgylchedd naturiol hynod fregus sydd ar y safle ac yn ei gynnal. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, mynediad a’r mathau o weithgareddau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus iawn i esbonio.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU