Rhwyf-fyrddio a Phedalfyrddio yng Nghaerdydd
Yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, rydyn ni’n croesawu dechreuwyr, hen lawiau a phawb rhwng y ddau.
Gallwch ddod â’ch stwff eich hun a thalu i lansio’ch offer chi, neu logi’r holl offer sydd ei hangen arnoch gennym ni.
Rhwyf-fyrddio
Mae rhwyf-fyrddio’n gangen o syrffio, ond yn hytrach na gorwedd ar y bwrdd, rydych chi’n sefyll ac yn defnyddio padl i symud y bwrdd yn ei flaen. Mae’r bwrdd ei hun yn fwy na hwylfwrdd hefyd. Rhwyf-fyrddio yw’r math o chwaraeon sy’n tyfu’r cyflymaf yn y DU, ac mae’n ffordd wych o ymarfer y corff i gyd ac yn hwyl i bobl o bob oedran.
Mae gennym ein Rhwyf-fwrdd Mawr hefyd, sy’n ddigon mawr i wyth oedolyn badlo’r un pryd. Mae’r bwrdd yn sefydlog dros ben ac yn ddewis da i’r rhai sydd angen platfform sefydlog iawn neu gynhaliaeth ychwanegol.
Pedalfyrddio
Offer dŵr newydd yw’r Pedalfyrddau sy’n cyfuno hwyl Rhwyf-fyrddio â’r cysur o ddal bariau llaw. Trwy bwyso ar y padiau pedalu ar y bwrdd â’ch traed, mae’r ddwy asgell o dan y bwrdd yn symud nôl ac ymlaen gan eich gyrru yn eich blaen yn gyflym ac effeithlon…