Blodau Gwyllt

Dolydd a Bwystfilod Bach

Gloÿnnod Byw

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Planhigion a Phryfed

Mae blodau gwyllt yn llewyrchu yng Nghronfeydd Ddŵr Llys-faen a Llanisien, fel yr oedden nhw’n arfer ei wneud yn y dolydd gwair ers lawer dydd.

Mae llawer o’r planhigion a gofnodwyd yn nodweddiadol o hen ddolydd sefydlog ac maen nhw’n cynnwys rhywogaethau fel cnau daear, crydwellt, milddail a’r gribell felen. Cofnodwyd pum rhywogaeth o degeirian ar y safle – tegeirian porffor y gwanwyn, y tegeirian brych, y tegeirian dwysflodeuog, tegeirian y waun a’r tegeirian gwenynnog, er bod y ddwy olaf yma’n brin.

Mae yna blanhigion dŵr sy’n brin yn lleol, a phoblogaeth bwysig o gen a mwsoglau hefyd.

Pryfed

Am fod yna gymaint o flodau gwyllt, mae yna amrywiaeth eang o bryfed hefyd, ac yn arbennig gloÿnnod byw.

Mae’r gloÿnnod byw yn cynnwys y glöyn gwyn cleisiog, yr iâr fach dramor, yr iâr fach felen, yr adain garpiog, y porthor, y glesyn cyffredin a melyn y rhafnwydd.

Uchafbwyntiau Natur a Bywyd Gwyllt

Y Coetir

Crwydrwch ein llwybrau natur yn y coetir lled-hynafol a’r coetir mwy diweddar ar y safle. Holwch am ein parth addysg a’n Hafan Bywyd Gwyllt…

• AM FANYLION •

Adar ac Adarydda

Mae’r cymysgedd o gynefinoedd coetir, glaswelltir a glan dŵr yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn golygu bod yr ardal hon yn gyfoeth o adar. Darganfyddwch yr adar sy’n ymgartrefu yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien.

• AM FANYLION •

Bywyd Gwyllt a Natur

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn rhan annatod o seilwaith gwyrdd a glas Caerdydd ac maent o werth ecolegol bendigedig yn arbennig o ran ffwng a’r adar sy’n dod i dreulio’r gaeaf yma.

• AM FANYLION •

Ffwng

Mae argloddiau Cronfa Ddŵr Llys-faen a Llanisien o ddiddordeb arbennig am eu poblogaethau sylweddol o ffwng glaswelltir, ac yn arbennig y cap cwyr prin.

• AM FANYLION •

Pwyll Piau Hi

I’n helpu ni i amddiffyn yr holl blanhigion a phryfed yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, cymrwch ofal wrth gerdded o gwmpas y safle.

Cadwch at y llwybrau bob amser a pheidiwch â mynd ar y glaswellt.

Cadwch draw o’r llwybrau sydd ar gau yn dymhorol.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU