

Rhowch barti pen-blwydd bythgofiadwy i’ch plentyn gyda dathliad llawn antur yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien.
Mae ein partïon pen-blwydd yn cyfuno gwefr chwaraeon antur dan ofal hyfforddwyr arbenigol sy’n gwybod yn union sut i godi’r hwyl â lleoliadau bendigedig.
Mae dewisiadau bwyd blasus ar gael am gost ychwanegol hefyd.
Oedran: 6-18 oed (mae cyfyngiadau – gweler isod).
Anturiaethau epig lle bydd y plant wrth eu bodd.
Lleoliadau awyr agored prydferth.
Sesiynau dan oruchwyliaeth ein hyfforddwyr cymwys a chyfeillgar.
Sesiynau dan oruchwyliaeth ein hyfforddwyr cymwys a chyfeillgar.
Hwyl ddidrafferth – ni sy’n rhoi’r antur, chi sy’n mwynhau’r hwyl.
Mae partïon ar gael gydol y flwyddyn.
£200 am 10 plentyn
Hyd: 2 Awr*
Bydd y plant yn ymgolli yn yr antur a chewch chi’r tawelwch meddwl o wybod eu bod mewn dwylo da.
Pris £320 am 10 plentyn
Hyd: 2½ Awr*
Uwchraddiwch eich hwyl! Mwynhewch sesiwn gweithgareddau llawn plws 30 munud yn eich ystafell parti preifat yn bwyta bwyd poeth blasus.
* yn cynnwys amser i ddosbarthu a gwisgo siwtiau gwlyb, helmedau a chymhorthion hynofedd.
Caiacio (8 oed+)
Canŵio (8 oed+)
Rhwyf-fyrddio (8 oed+)
Rhwyf-fwrdd Mawr (8 oed+)
Pedalfyrddio (8 oed+)
Bydd pob sesiwn yng ngofal ein hyfforddwyr arbenigol, a fydd yn diddanu’r plant wrth eu cadw nhw’n ddiogel.
Wedi ei weini’n gynnes yn eich ystafell parti preifat, gall pob plentyn ddewis o blith:
Byrgyr Cig Eidion
Stribedi Cyw Iâr
Goujons Pysgod
Pizza Margherita
Selsig Figan
Oll gyda sglodion, ffa a sgwash.
Mae opsiynau llysieuol, figan, halal a heb glwten ar gael – mae rhywbeth i bawb.
Ffoniwch ni ar 02920 740454 neu e-bostiwch ni ynlisvaneandllanishen@dwrcymru.com i holi a bwcio’ch parti.
Gwisg nofio i fynd o dan eich siwt wlyb
Dillad sych
Tywel
Eli haul
Potel o ddŵr
Esgidiau sy’n gorchuddio bysedd y traed
Mae ein pecynnau parti pen-blwydd i blant yn cynnig y profiad perffaith i blant 8+ oed sy’n dathlu eu diwrnod arbennig.
Gyda bwyd blasus a dewis o weithgareddau dŵr, mae pob parti yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn llawn hwyl ac antur.
Mae pecynnau parti pen-blwydd ar gael ar ddydd Sadwrn a dydd Sul trwy gydol y flwyddyn.
Gellir bwcio partïon ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol os yw’r cyfleusterau ar gael.
Gall trefnwyr partïon ddewis rhwng pecyn gweithgareddau yn unig neu becyn gweithgaredd a bwyd.