
Nofio Gyda Natur
Mae gwaith monitro rheolaidd yn dangos bod ansawdd y dŵr yn ardderchog yng Nghronfa Ddŵr Llanisien. Ond ffeindiwyd un math o fwydyn microsgopig naturiol yn y gronfa a allai achosi anhwylder o’r enw ‘cosfa’r nofiwr’.
Beth yw cosfa’r nofiwr?
Mar cosfa’r nofiwr, neu dermatitis cercariaidd, yn ymddangos ar ffurf llid neu frech ysgafn ar y croen. Mae’n cael ei achosi gan adwaith alergaidd i fathau penodol o fwydod microscopaidd sy’n heintio rhai adar a mamaliaid. Malwod wedi’u heintio sy’n rhyddhau’r mwydod hyn i ddŵr croyw a dŵr hallt (fel llynnoedd, pyllau a chefnforoedd). Mae cosfa’r nofiwr yn gyffredin ledled y byd ac mae’n fwy cyffredin dros fisoedd yr haf.
I leihau’r risg o gosfa’r nofiwr
Symudwyd y cwrs nofio a’r man lansio o’r dŵr bas i ddŵr oerach a dyfnach.
Ar gyfer sesiynau nofio dŵr agored a gweithgareddau lle mae yna risg uchel o ymdrochi, fel llogi rhwyf-fwrdd, rhaid i ddefnyddwyr gymryd y rhagofalon canlynol:
— gwisgo siwt wlyb hyd llawn a chap nofio
— gorchuddio unrhyw friwiau a chrafiadau â phlaster diddos
— golchi unrhyw friwiau cyn gynted â phosibl ar ôl dod allan o’r dŵr
— ceisio peidio â llyncu’r dŵr
— cael cawod gynnes gyda sebon yn syth ar ôl dod allan o’r dŵr, a defnyddio tywel i sychu’n ofalus
Beth yw arwyddion a symptomau cosfa’r nofiwr?
Mae rhai pobl yn fwy tueddol o ddioddef nag eraill. Mae ychydig bach fel mosgitos sy’n dueddol o fynd ar ôl rhai pobl yn fwy na’r lleill. Gall y symptomau gynnwys:
— teimlad o binnau bach, llosgi neu gosi ar y croen
— plorod bach cochlyd neu bothelli bach
Am taw adwaith alergaidd sy’n achosi cosfa’r nofiwr, os cewch eich datguddio i’r mwydyn drosodd a thro, gallech ddioddef symptomau mwy difrifol.
Er ei bod yn ddiflas, ni fydd y symptomau’n para mwy nag ychydig ddyddiau ar y cyfan, ond gallant bara’n hirach. Er ei fod yn anghyffyrddus, nid yw’r cosi yn para mwy na chwpl o ddyddiau fel rheol. Ni allwch ledu’r frech i bobl eraill, ac nid oes angen triniaeth. Os oes cosfa’r nofiwr arnoch, mae hi’n bwysig peidio â chrafu – gall crafu achosi haint yn y frech. Gallai meddyginiaeth dros y cownter helpu i liniaru/lleihau symptomau fel cosi – siaradwch â’ch fferyllydd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall os oes angen cyngor arnoch.
Gwneir chwaraeon ddŵr yn llwyr ar risg y rhai sy’n cymryd rhan.
Mae hi’n bwysig cofio nad cosfa’r nofiwr yw’r unig beth sy’n gallu achosi brech neu beri i chi deimlo’n sâl ar ôl dod i gysylltiad â’r dŵr agored. Ceisiwch gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol os ydych chi’n teimlo’n sâl ar ôl dod i gysylltiad â dŵr agored, neu os oes gennych symptomau na allwch eu hesbonio neu sy’n gwaethygu.
I gael rhagor o fanylion am Gosfa’r Nofiwr yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, darllenwch ein datganiad yma.