
Chwedl ryngweithiol arbennig ar gyfer plant a theuluoedd trwy goedwig Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yw Llwybr Stori Llanisien.
Dilynwch y llwybr wrth fwyhau byd natur a llwythwch y codau QR i ddatgelu’r stori….
Comisiynwyd Llwybr Stori Llanisien gan Dîm Caerdydd sy’n Dda i Blant sydd wedi bod wrthi’n creu llwybrau stori pwrpasol ym mharciau Caerdydd.
Mae’r llwybrau’n mynd â phlant a’u teuluoedd trwy gyfres o arosfannau wedi eu curadu â chodau QR lle gall cerddwyr gael gwahanol benodau o stori sy’n benodol i’r parc yna. Yn ogystal â Llwybr Stori Llanisien yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, mae yna lwybrau ym Mharc Bute, Bryngaer Caerau, Bae Caerdydd, Parc Cefn Onn, Parc Coed y Nant, Fferm y Fforest, Llyn yr Hendre a Pharc Tredelerch. Mae rhagor o fanylion yma.
Bwriad llwybrau stori parciau Caerdydd yw hyrwyddo hwyl chwareus a chreu cysylltiad go iawn â’r stori trwy ‘ffeindio’ y lleoliad nesaf, cysylltu â byd natur yn yr awyr agored (fel rhwbio rhisgl/adeiladu rhywbeth o frigau), a darganfod mannau cudd yn nhirnodau adnabyddus Caerdydd.
Prosiect wedi ei ariannu gan gynllun Coedwigoedd Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yw Llwybr Stori Llanisien.