Anturiaethau Dŵr Cymru

Hwylio

Yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Profwch Wefr Hwylio

Darganfyddwch fyd o antur…

Agorwch y drws ar fyd cyffrous o hwylio, camp sy’n enwog am ei hamrywiaeth a’i phosibiliadau di-ri.

Rhyddhewch eich hwyliwr mewnol heddiw a chychwyn ar daith fythgofiadwy.

Sesiwn Blasu Hwylio

Darganfyddwch Gronfa Ddŵr Llanisien yng nghwmni un o’n hyfforddwyr. Mae’r sesiwn yma ar gyfer pobl nad ydynt wedi hwylio o’r blaen neu bobl sydd wedi cael blas arni ac sydd am ddysgu’r hanfodion.

• BWCIO NAWR •

Pwyll Piau Hi

Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r amgylchedd naturiol hynod fregus sydd ar y safle ac yn ei gynnal. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, mynediad a’r mathau o weithgareddau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus iawn i esbonio.

Profwch Wefr Hwylio

Darganfyddwch fyd o antur…

Agorwch y drws ar fyd cyffrous o hwylio, camp sy’n enwog am ei hamrywiaeth a’i phosibiliadau di-ri. Dim ots a ydych chi’n hen law ar hwylio neu’n hollol newydd i’r peth, mae Cynllun Hwylio Cenedlaethol yr RYA wedi ei deilwra i ddeffro’ch angerdd a chaniatáu i chi gofleidio pob agwedd ar y gamp arbennig yma.

Ewch ar daith o ddarganfod wrth weithio’ch ffordd trwy ein hamrywiaeth gynhwysfawr o gyrsiau, sydd wedi eu dylunio’n ofalus i ddarparu ar gyfer eich anghenion a’ch dyheadau penodol chi. Gyda Chynllun Hwylio Cenedlaethol yr RYA, gallwch ddysgu, tyfu a mwynhau pob eiliad ar y dŵr.

Ymgollwch yn y grefft o hwylio gyda’n cyrsiau yng ngofal arbenigwyr, a gynhelir gan ddefnyddio dingis yn bennaf. Mae’r sesiynau ar gael ar benwythnosau a gellir eu haddasu ar gyfer grwpiau bychain neu hyfforddiant preifat. Mae ein hamserlenni hyblyg yn sicrhau y gallwch ddilyn eich angerdd ar amser sy’n addas i chi. Croeso i chi gysylltu i ofyn am wybodaeth bellach am ddisgowntiau grŵp a threfniadau wedi eu teilwra’n arbennig i chi.

Rhyddhewch eich hwyliwr mewnol heddiw a chychwyn ar daith fythgofiadwy.

Cwrs Cyflwyniad i Hwylio

Gyda hyfforddwr ar y bwrdd, bydd y sesiwn dwy awr a hanner yma’n cynnig cyflwyniad i hanfodion llywio a bod yn aelod o’r criw, Gallech drin y wers fel sesiwn blasu i gychwyn camp newydd, ond mae’n berffaith i ddechreuwyr sydd am ddatblygu a pharhau i ddysgu fel hobi neu fel ffordd newydd o fyw.

• BWCIO NAWR •

Cyrsiau Hwylio i Ddechreuwyr yr RYA

Hwylio Dingis Lefel 1 yr RYA

Cyflwyniad i’r gamp yw’r cwrs Dechrau Hwylio (Cychwynnol), sy’n cwmpasu’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i fynd allan ar y dŵr dan oruchwyliaeth.

Hwylio Dingis Lefel 2 yr RYA

Cwrs deuddydd yw’r cwrs Hanfodion Hwylio (Sgiliau Sylfaenol) ac mae’n datblygu’r sgiliau i hwylio’n annibynnol.

Hwylio Dingis Lefel 3 yr RYA

Mae’r cwrs Hwylio’n Well yn cydategu’r sgiliau sylfaenol ac yn adeiladu ar y technegau a ddysgwyd yn Lefel 2. Mae’r wers yn cynnwys cyflwyniad i’r modiwlau uwch.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU