
Telerau Hunan-lansio
Croeso i chi lansio eich offer eich hun ar y gronfa mewn amgylchedd diogel dan reolaeth. Mae yna risg bob tro wrth gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr. Diogelwch holl ddefnyddwyr y dŵr fydd ein blaenoriaeth bob tro.
Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r amgylchedd naturiol hynod fregus sydd ar y safle ac yn ei gynnal. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, mynediad a’r mathau o weithgareddau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus iawn i esbonio.
Gofynion Sylfaenol
Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti (sydd ar gael trwy’r holl gyrff llywodraethu cenedlaethol fel Canŵio Cymru, a’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol).
Rhaid i bawb sydd o dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed sy’n gweithredu fel gofalwr cyfreithiol.
Gall bobl dros 18 oed oruchwylio hyd at 2 berson o dan 18 oed lle mae badau’n darparu ar gyfer 3 defnyddiwr.
O ran safonau sylfaenol diogelwch ac ansawdd ar gyfer y bad. Penderfyniad y Rheolwr ar Ddyletswydd sy’n derfynol.
Rhaid gwisgo cymorth hynofedd sy’n ffitio’n iawn (EN 393) wrth fynd ar y dŵr bob tro. Rhaid i wregysau hynofedd a siacedi achub â silindr nwy gydymffurfio ag EN ISO 12402-5 / 12402-6 a rhaid eu gwisgo dros ben yr holl haenau eraill o ddillad a rhaid iddynt fod yn weladwy’n glir bob tro.
Yr isafswm oedran i fynd allan ar y dŵr yw 5 mlwydd oed. Rhaid i blant 5 i 7 oed wisgo siaced achub (EN 395). Gellir llogi’r rhain o’r Ganolfan Gweithgareddau.
Rhaid cael hawlen lansio ddilys ar gyfer eich sesiwn i gyd.