
Bu adeiladu’r cronfeydd, a’r gwelliannau o ran cyflenwadau dŵr glân a ddaeth yn sgil hynny, yn dro ar fyd i bobl Caerdydd.
Gellir olrhain tarddiad Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien nôl i’r 19eg Ganrif. Tyfodd Caerdydd yn gyflym fel porthladd allforio glo pwysig yn sgil agor Doc Gorllewinol Bute ym 1839 ac adeiladu Rheilffordd Cwm Taf i gludo’r glo i’r doc.
Tyfodd masnach a phoblogaeth y dref, ond nid y cyfleustodau. Arweiniodd yr amodau afiach at ymlediad afiechydon fel teiffoid a cholera. Pan ddaeth y cysylltiad rhwng yr afiechydon hyn a dŵr yfed halogedig yn amlwg, cymerodd Corfforaeth Caerdydd gamau i ddarparu cyflenwad priodol a digonol o ddŵr ar gyfer y dref.
Cynigiodd Deddf Seneddol ym 1860 greu Cronfa Ddŵr Llys-faen i storio dŵr o Nant Llanisien, Nant Mawr, Nant Draw, Nant Felin a Nant Dulas.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu cronfa storio newydd yn Llys-faen ym 1864 a chafodd ei gwblhau flwyddyn yn ddiweddarach ym 1865.
Adeiladwyd gwelyau hidlo hefyd ar wely’r hyn a ddaeth yn Gronfa Ddŵr Llanisien yn ddiweddarach.
Parhaodd poblogaeth Caerdydd i dyfu, ac erbyn diwedd y 1870au, roedd dŵr yn dechrau mynd yn brin eto. Daeth Corfforaeth Caerdydd o hyd i ateb chwyldroadol; sef adeiladu nifer o gronfeydd yng ngwm Taf Fawr ym Mannau Brycheiniog, ac adeiladu piblinell trideg a dwy o filltiroedd o hyd nôl i Gaerdydd lle gellid storio’r dŵr mewn cronfa gadw newydd ger Cronfa Ddŵr Llys-faen.
Dan nawdd Peiriannydd y Fwrdeistref, John Avery Brandon Williams, dechreuodd y gwaith i adeiladu Cronfa Ddŵr Llanisien ddechrau 1884 a chafodd ei gwblhau ym 1886. Cafodd ei chreu ar dir a oedd yn lled-wastad wedi ei hamgylchynu gan lan o bridd â chraidd o glai, â cherrig wedi eu torri a llaw ar yr wyneb mewnol.
Ar ôl cwblhau cronfa ddŵr Cantref ym 1892, dechreuwyd cludo dŵr i lawr trwy’r pibellau i Lanisien gan ddefnyddio’r seilwaith newydd. Erbyn cwblhau Cynllun Taf Fawr, roedd y biblinell yn gallu cludo hyd at 12 miliwn o alwyni o dŵr y dydd i Gronfa Ddŵr Llanisien, ac roedd y gronfa ei hun yn gallu dal 317 miliwn o alwyni o ddŵr.
Gallwch weld y leinin o gerrig a dorrwyd â llaw a llawer o offer y falf wreiddiol, y pibellwaith a’r maglau pysgod o hyd.
Heddiw, mae Cronfa Ddŵr Llanisien wedi ei dynodi’n adeilad rhestredig oherwydd y beirianneg arloesol a ddefnyddiwyd i’w chreu.
Gosodwyd y siambr sgrinio a’r nenbont godi ger Cronfa Ddŵr Llanisien yn ddiweddarach. Roedd y siambr sgrinio’n hidlo’r dŵr oedd yn cael ei godi o’r gronfa cyn iddo fynd i’r pibellau haearn bwrw. Defnyddiwyd y nenbont godi i gynnal a chadw’r siambr sgrinio a’r sgriniau.
Ganol y 1960au, adeiladodd Corfforaeth Caerdydd gronfa ddŵr newydd yn Llandegfedd, ar gyrion Pont-y-pŵl (un arall o Atyniadau Ymwelwyr Dŵr Cymru), i ddarparu prif gyflenwadau Caerdydd. Cafodd y gwelyau hidlo ar Heol Allensbank eu datgomisiynu ym 1968, wedyn cafodd y dŵr o Lanisien ei bwmpio i fyny i Gronfa Ddŵr y Wenallt yn Rhiwbeina, lle parhaodd i gael ei ddefnyddio fel cyflenwad wrth gefn mewn argyfwng oedd ond yn gallu darparu tair miliwn litr y dydd.
Yng nghanol y 1970au, penderfynwyd bod Cronfa Ddŵr Llanisien wedi dod i ddiwedd ei hoes ddefnyddiol. Ni chafodd ei draenio, ond nid oedd yn cael dŵr o biblinell Taf Fawr mwyach, yn hytrach, dŵr glaw oedd yn ei chadw’n llawn.
Dechreuwyd defnyddio Cronfa Ddŵr Llanisien lle i hwylio ym 1967. Cafodd y jeti glanio ei adeiladu ym 1968 a sefydlodd Awdurdod Addysg Caerdydd ganolfan hwylio yno’r un flwyddyn. Parhaodd y gronfa i gael ei defnyddio fel canolfan hwylio a chlwb pysgota â phlu tan 2004 pan ddaeth y ddwy gronfa’n eiddo i Western Power Distribution.
Yn 2004, daeth mynediad cyhoeddus i ben. Cyflwynwyd cais cynllunio i ddraenio cronfa Llanisien ac adeiladu mwy na 300 o dai ar y safle. Cafodd y gronfa ei draenio, ond roedd y Grŵp Gweithredu dros y Gronfa ar flaen y gad wrth arwain y gwrthwynebiad i’r ailddatblygiad.
Ar ôl nifer o ymchwiliadau cyhoeddus, gwrthodwyd caniatâd cynllunio yn y pendraw yn 2013 oherwydd y niwed y byddai’r cynllun wedi ei achosi i strwythur y gronfa a’i safle. Gwerthodd Western Power Distribution y cronfeydd i Celsa yn 2013 er mwyn diogelu cyflenwad dŵr ar gyfer gweithfeydd Allied Steel and Wire ym Mae Caerdydd Caerdydd (dechreuodd Corfforaeth Caerdydd ddefnyddio Cronfa Ddŵr Llys-faen i gyflenwi Gweithfeydd Dur Castle yn Nhremorfa ym 1936). Yn 2016, rhoddodd Celsa brydles 999-mlynedd y safle i Ddŵr Cymru.
Yn 2017, cyflawnodd Dŵr Cymru waith trwsio helaeth ar y llethrau cerrig, tŵr y falfiau a’r seilwaith arall, a dechreuodd adlenwi Cronfa Ddŵr Llanisien. Cyflawnodd Tîm Diogelwch Argaeau’r cwmni waith pellach yn 2020 i baratoi i newid defnydd y safle i fod yn atyniad ymwelwyr.
Hefyd yn 2020, ffeindiodd arolwg ecolegol 24 gwahanol rywogaeth o ffwng cap cwyr ar y safle – sy’n nifer ryfeddol. I gael rhagor o fanylion am y ffwng cap cwyr yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, ewch i’n tudalennau ar natur.
Rhwng 2021 a 2023, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chynllun Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, parhaodd Dŵr Cymru i gyflawni gwelliannau ar draws ystâd Llys-faen a Llanisien er mwyn cynorthwyo’r amgylchedd a bioamrywiaeth. Mae rhagor o fanylion yma yma.
Ac felly, yn dilyn buddsoddiad a datblygiad sylweddol gan Ddŵr Cymru, mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien bellach yn hyb ar gyfer iechyd, lles a hamdden, yn ‘ynys’ i fyd natur ar gyrion Caerdydd a fydd yn eich ailgysylltu chi â’r awyr agored a byd natur.
Dysgwch sut mae Dŵr Cymru wedi adfer ac ailddatblygu Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien mewn ffordd ofalus ac ystyriol.
• AM FANYLION •Gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr, plant ysgol a grwpiau corfforaethol i hybu dealltwriaeth am arwyddocâd arbennig dŵr a’r cronfeydd.
• AM FANYLION •Lle i’ch ailgysylltu â’r awyr agored a’r dŵr, mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn hyb ar gyfer iechyd, lles a hamdden…
• AM FANYLION •