
Mae’r Gwobrau Diolch yn ffordd i chi roi gwybod i ni am rywun (neu dîm o bobl) sydd wedi darparu gwasanaeth rhagorol ar eich cyfer.
Ydych chi wedi cael gwasanaeth nodedig gan rywun yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien?Aethon nhw gam ymhellach i’ch helpu chi, rhagweld eich anghenion a rhoi gofal cwsmeriaid neilltuol o dda i chi?
Bydd pawb sy’n cael eu henwebu’n cael gwybod eich bod wedi gwerthfawrogi eu hymdrechion. Mae yna enillwyr misol a blynyddol hefyd, lle caiff yr enillwyr lythyr i’w llongyfarch a thocynnau rhodd i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.