Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Ennill Gwobr RICS

2024

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn ennill Gwobr RICS flaenllaw


Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien wedi cael ei anrhydeddu â gwobr Prosiect Rheoli Tir a Datblygu Cynaliadwy y Flwyddyn yng Ngwobrau RICS.

Mae’r wobr yn cydnabod prosiectau adeiladu neilltuol sy’n hybu twf economaidd, llesiant cymdeithasol, yn diogelu’r amgylchedd ac yn cynnal diwylliant.


Mae’r wobr yma wedi rhoi cydnabyddiaeth i waith cydweithwyr o Ddŵr Cymru, grwpiau cymunedol a phartneriaid, ac mae’n destament i ymdrechion pawb o dan sylw.

Peter Perry, Chief Executive Welsh Water / Prif Weithredwr Dŵr Cymru

Rhoddodd beirniaid RICS glod i’r prosiect am ymgysylltiad agos ei grŵp cymunedol ac am gydweithrediad Llywodraeth Cymru. Mae’r wobr yn cydnabod bod tri phrosiect yn benodol – sef y ganolfan ymwelwyr, a’r prosiectau ENRaW a Choedwigoedd Cymunedol – wedi trawsnewid y safle gyda’i gilydd, gan ddarparu cyfleusterau o safon uchel, lle gwyrdd a glas, a hwyluso mynediad i bawb wrth amddiffyn ecoleg y safle a chyfoethogi ei fioamrywiaeth.

Ers i’r safle ddod i ddwylo Dŵr Cymru yn 2016, mae’r cwmni wedi cydweithio’n agos â’r Grŵp Gweithredu dros y Gronfa (RAG), y gymuned leol, ac amryw o randdeiliaid i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd.


Mae beth mae Dŵr Cymru wedi ei gyflawni ar y safle ers cymryd awenau’r safle y tu hwnt i freuddwydion yr ymgyrchwyr a oedd wedi meddwl sawl tro nad oedd hi’n frwydr y byddai modd ei hennill.

Bernard Adshead, RAG Committee Member / Aelod o Bwyllgor RAG

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy’r bartneriaeth ‘Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles’ (EnRAW) wedi caniatáu ar gyfer datblygu rhaglen ymgysylltu cymunedau sy’n cynnwys gwirfoddoli, addysg, digwyddiadau a dehongli.

Mae grant Coetiroedd Cymunedol Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cynorthwyo Cynllun Gwella Coetiroedd er mwyn cyfoethogi bioamrywiaeth y cronfeydd dŵr. Mae’r cynllun yn cynnwys rheoli’r coetiroedd yn weithredol, gweithio gyda sefydliadau amgylcheddol, a chynnwys pobl leol mewn ymdrechion cadwraeth.

Mae Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd, sef Grŵp Cyfeillion cyntaf Dŵr Cymru, wedi chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant y prosiect. Gyda dros 300 o aelodau a 183 o wirfoddolwyr, mae’r grŵp wedi helpu i baratoi’r safle cyn ei agor, ac mae’n parhau i weithio gyda’r gofalwyr i roi’r Cynllun Rheoli Coetiroedd ar waith.


Mae hi’n hyfryd gweld trawsnewidiad arbennig y cronfeydd dŵr yn ennill cydnabyddiaeth ar lefel y DU

Peter Fullerton, Friends of Cardiff Reservoirs Chair / Cadeirydd Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd

Dyluniwyd y ganolfan ymwelwyr gan Feilden Clegg Bradley Studios â chynaliadwyedd mewn golwg. Trwy ddefnyddio nodweddion ecogyfeillgar fel gwaelodion cawod sy’n adfer gwres a phaneli solar, mae’n lleihau ei heffaith amgylcheddol. Hwn hefyd yw un o brosiectau cyntaf Dŵr Cymru i ymgorffori systemau draenio cynaliadwy, gan helpu i amddiffyn yr ecosystem leol.

Mae’r wobr yma’n destament i’r dull cydweithredol o weithio a ddefnyddiwyd i ailddatblygu’r cronfeydd dŵr a chreu cyfleuster o safon uchel sy’n fuddiol i’r gymuned ac yn amddiffyn yr amgylchedd.

Diolch i’n holl gydweithwyr yn Dŵr Cymru, grwpiau cymunedol a phartneriaid sydd wedi gwneud y prosiect yma’n gymaint o lwyddiant.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR