Chwaraewch eich rhan

Gwirfoddoli

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Chwaraewch eich rhan

Gwirfoddoli

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Chwaraewch eich rhan

Gwirfoddoli

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd


Sefydlwyd y grŵp yn 2021 fel olynydd naturiol i’r Grŵp Gweithredu dros y Gronfa (RAG) a oedd wedi bod yn brwydro ers bron i ddau ddegawd i atal datblygiad tai ar safle Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien.

Mae’r Cyfeillion yn codi proffil y cronfeydd ac yn eu hyrwyddo fel lleoedd amwynder gwerthfawr i’r cyhoedd, gan helpu i’w hamddiffyn fel lle diogel a hygyrch ar gyfer hamdden, addysg a mwynhad i bawb yn y gymuned.

Mae’r Cyfeillion yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i gynnwys trigolion, grwpiau lleol a sefydliadau cadwraeth wrth gyfoethogi’r cronfeydd trwy amddiffyn a gwella bioamrywiaeth, dathlu hanes, a helpu i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer addysg ac iechyd.

• Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd •

Gwirfoddoli yn Dŵr Cymru

Rhan o’n gweledigaeth 2050 yw cynorthwyo bioamrywiaeth ac ecosystemau a manteisio i’r eithaf ar y tir, y dŵr a’r asedau sydd yn ein gofal. Y nod yw creu hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden i chi eu mwynhau, gan eich ailgysylltu â’r awyr agored, y dŵr a’r tir. Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau gwirfoddol i’n helpu ni i gyflawni’r nodau hyn. I gael rhagor o fanylion am wirfoddoli yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, neu yn wir yn unrhyw un o’n hatyniadau ymwelwyr ar draws Cymru, e-bostiwch volunteer@dwrcymru.com.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU