Gweithgareddau

Gwyliau Ysgol

i’r Plant

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Gweithgareddau Gwyliau Ysgol

Trwy gydol gwyliau’r ysgol, mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn cynnal diwrnodau/wythnosau aml-weithgaredd ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed.

Mae’r gweithgareddau dŵr yn cynnwys canŵio, caiacio a rhwyf-fyrddio.

Gall rhieni ymlacio gan wybod bod eu plant mewn dwylo da gyda’n hyfforddwyr profiadol hollol gymwys. Darperir yr holl offer diogelwch ac mae cwch diogelwch yn goruchwylio bob amser. Gall y rhai sy’n cymryd rhan elwa ar ymarfer corff a gwella eu ffitrwydd yn ogystal â dysgu sgiliau ymarferol newydd a gwersi bywyd fel sut i weithio fel tîm.

Sesiynau Blasu

Rhwyf-fyrddio

Agorwch y drws ar fyd cyffrous o hwylio, camp sy’n enwog am ei hamrywiaeth a’i phosibiliadau di-ri.

• MANYLION PELLACH •

Canŵio / Chaiacio

Dim ots a ydych chi’n dewis canŵ traddodiadol neu gaiac mwy ystwyth, bydd dyfroedd llonydd Cronfa Ddŵr Llanisien yn cynnig y cefndir perffaith ar gyfer eich antur padlo.

• MANYLION PELLACH •

Hwylio

Agorwch y drws ar fyd cyffrous o hwylio, camp sy’n enwog am ei hamrywiaeth a’i phosibiliadau di-ri.

• MANYLION PELLACH •

Pwyll Piau Hi

Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r amgylchedd naturiol hynod fregus sydd ar y safle ac yn ei gynnal. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, mynediad a’r mathau o weithgareddau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus iawn i esbonio.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU