Safle SoDdGA

Ffwng

Cap Cwyr Prin

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Safle Pwysig ar gyfer Ffwng

Mae argloddiau Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien o ddiddordeb arbennig am eu poblogaethau pwysig o ffwng glaswelltir, ac yn arbennig y ffwng cap cwyr a thafod y ddaear.

Mae ffwng cap cwyr yn ffynnu mewn glaswellt byr ar bridd heb ei droi heb fawr ddim maetholion. Maen nhw’n tyfu orau ar dir heb ei aredig neu ei wrteithio’n artiffisial, ac mae’r amodau ar argloddiau ein cronfeydd yn ddelfrydol iddynt. Mae ffwng cap cwyr yn ddeniadol iawn, ac mae gan lawer ohonynt liwiau llachar. Yn yr hydref fe welwch chi gapiau cwyr coch, pinc, melyn a gwyrdd yn swatio yn y glaswellt fel gemau bach disglair. Ffeindiwyd dros ddeuddeg pump rhywogaeth o ffwng cap cwyr yn y glaswelltir sy’n amgylchynu’r gronfa.

Mae tafod y ddaear wir yn edrych fel tafod bach yn dod allan o’r ddaear. Maen nhw fel arfer yn dywyll ac yn briddlyd eu golwg, gan amrywio o liw gwyrddfelyn i frown a du, ac fe welwch chi nhw ymysg y glaswellt tua diwedd yr hydref, o fis Tachwedd ymlaen. Mae tua thrideg o wahanol rywogaethau o dafod y ddaear yn y DU ac mae gennym o leiaf saith ohonynt yma yn Llys-faen a Llanisien.

Mae’n well gan y ffwng ddolydd pori lle mae’r glaswellt yn fyr, ac felly mae lladd gwair yn weddol gyson yn cael effaith debyg i bori. Cyflawnwyd gwaith i glirio llystyfiant ar draws y safle ac mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei reoli trwy ladd gwair. Mae’r ffaith fod llai o gysgod a dail yn cwympo yn sgil tocio’r coed oedd yn arfer bargodi dros y ffens yn beth da i’r ffwng yn yr ardal yma.

Uchafbwyntiau Natur a Bywyd Gwyllt

Adar ac Adarydda

Mae’r cymysgedd o gynefinoedd coetir, glaswelltir a glan dŵr yn golygu bod yr ardal hon yn gyfoeth o adar. Darganfyddwch yr adar sy’n ymgartrefu yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien.

• AM FANYLION •

Uchafbwyntiau Natur a Bywyd Gwyllt

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn rhan annatod o seilwaith gwyrdd a glas Caerdydd ac maent o werth ecolegol bendigedig yn arbennig o ran ffwng a’r adar sy’n dod i dreulio’r gaeaf yma.

• AM FANYLION •

Y Coetir

Crwydrwch ein llwybrau natur yn y coetir lled-hynafol a’r coetir mwy diweddar ar y safle. Holwch am ein parth addysg a’n Hafan Bywyd Gwyllt…

• AM FANYLION •

Planhigion a Phryfed

Mae blodau gwyllt yn llewyrchu yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, fel roedden nhw’n arfer ei wneud yn y dolydd gwair ers lawer dydd, ac maen nhw’n denu amrywiaeth o bryfed, yn enwedig gloÿnnod byw.

• AM FANYLION •

Pwyll Piau Hi

I’n helpu ni i amddiffyn yr holl ffwng glaswelltir yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, cymrwch ofal wrth gerdded o gwmpas y safle.

Cadwch at y llwybrau bob amser a pheidiwch â mynd ar y glaswellt.

Cadwch draw o’r llwybrau sydd ar gau yn dymhorol.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU