
Mae profiad Nadolig newydd sbon i blant yn dod i Gaerdydd – gyda Siôn Corn yn cyrraedd ar gwch cyflym yn lle sled!
Gyda’i geirw’n gorffwys i fagu nerth at Noswyl Nadolig, bydd Siôn Corn yn dod i’r safle ar ei gwch cyflym personol! Wedyn bydd e’n ymuno â’i westeion arbennig yn y caffi am bryd Nadoligaidd, dros frecwast, cinio ne de prynhawn. Ar ôl bwyd, bydd yn sgwrsio â nhw, yn eistedd gyda nhw i dynnu lluniau ac yn rhoi anrheg iddyn nhw.
Argymhellir bwcio’n gynnar am fod nifer gyfyngedig o leoedd ar gael.
Dydd Sul 3 Rhagfyr
Dydd Sadwrn 9 a dydd Sul 10 Rhagfyr
Dydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Rhagfyr
Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr
Amseroedd
Brecwast: 10:00-11:30am
Cinio: 12:15pm – 1.45pm
Te Prynhawn: 2.30pm – 4.00pm
Plentyn £17.95
Oedolyn £13.95
Am ddim i blant dan 2 oed