Cynlluniwch Eich

Antur

yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Cynllunio’ch Ymweliad


Dyma’r holl fanylion sydd eu hangen arnoch i gynllunio’ch Antur Dŵr Cymru yng Nghronfeydd Ddŵr Llys-faen a Llanisien yng Nghaerdydd.

Rydyn ni am i chi fanteisio i’r eithaf ar eich ymweliad, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi.

Cŵn yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Dim ond yn ardal y ganolfan ymwelwyr a’r maes parcio y caniateir cŵn, ac ni cheir mynd â nhw i unrhyw ran arall o’r safle, gan gynnwys y llwybrau.

Rydyn ni’n gwybod y bydd y newyddion yma’n siomi llawer o’r trigolion cyfagos a hoffai fynd â’u cŵn am dro yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, ond mae angen i ni gymryd unrhyw fygythiad i ddynodiad y safle fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) am ei ffwng cap cwyr prin o ddifri.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ein cynghori y byddai cŵn yn peri gormod o risg i’r ffwng. Mae ffwng cap cwyr yn sensitif iawn i newidiadau yn eu cynefin fel amrywiadau yn lleithder y pridd, y tymheredd a lefelau’r nitradau sy’n gallu lleihau cynhyrchiant ffrwyth y ffwng. Yn benodol, gall newidiadau sydyn yn lefelau’r nitradau ar y safle – o droeth cŵn yn benodol – gael effaith niweidiol ar y ffwng.

Dylid nodi nad yw’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn cymorth.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU