Er eich Daioni

Cerdded

a Llesiant

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Cerdded

Mwynhewch fuddion iechyd a llesiant mynd am dro yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien.

I’n helpu ni i amddiffyn yr adar dŵr sy’n dod i dreulio’r gaeaf yma a’r amrywiaeth o ffwng glaswelltir yn benodol, cymrwch ofal wrth gerdded o gwmpas y safle.

Cadwch at y llwybrau bob amser a pheidiwch â mynd ar y glaswellt.

Cadwch draw o’r llwybrau sydd ar gau yn dymhorol.

Cau Llwybrau yn Dymhorol

Dylid nodi bod y llwybr o amgylch Cronfa Ddŵr Llys-faen ar gau dros y gaeaf rhwng Hydref a Mawrth er mwyn amddiffyn yr adar sy’n gaeafu yno,

Dynodwyd Cronfa Ddŵr Llys-faen yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ym 1972 ac mae’n parhau i ddenu poblogaeth amrywiol o adar. Yn enwog am yr hwyaid copog a’r hwyaid pengoch sy’n treulio’r gaeaf yno, mae’r gronfa wedi cynnal ei statws fel hafan ar gyfer y rhywogaethau hyn, er bod eu niferoedd wedi disgyn mewn blynyddoedd diweddar. Mae ymwelwyr yn dal i fwynhau gweld niferoedd da o’r adar hyn, yn arbennig mewn tywydd oer. Yn ogystal, mae Cronfa Ddŵr Llys-faen yn lle bendigedig i weld amrywiaeth o adar dŵr eraill fel hwyaid gwyllt, cwtieir, gwylanod dof, gwyachod mawr copog a gwyachod lleiaf.

Gofynnwn yn garedig i chi barchu’r ffaith fod y llwybr ar gau dros y gaeaf a’n helpu ni i amddiffyn y SoDdGA a’n poblogaeth bwysig o adar.

Cŵn yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Dim ond yn ardal y ganolfan ymwelwyr a’r maes parcio y caniateir cŵn, ac ni cheir mynd â nhw i unrhyw ran arall o’r safle, gan gynnwys y llwybrau.

Rydyn ni’n gwybod y bydd y newyddion yma’n siomi llawer o’r trigolion cyfagos a hoffai fynd â’u cŵn am dro yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, ond mae angen i ni gymryd unrhyw fygythiad i ddynodiad y safle fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) am ei ffwng cap cwyr prin o ddifri.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ein cynghori y byddai cŵn yn peri gormod o risg i’r ffwng. Mae ffwng cap cwyr yn sensitif iawn i newidiadau yn eu cynefin fel amrywiadau yn lleithder y pridd, y tymheredd a lefelau’r nitradau sy’n gallu lleihau cynhyrchiant ffrwyth y ffwng. Yn benodol, gall newidiadau sydyn yn lefelau’r nitradau ar y safle – o droeth cŵn yn benodol – gael effaith niweidiol ar y ffwng.

Dylid nodi nad yw’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn cymorth.

Llwybrau


Dylai ymwelwyr wisgo esgidiau addas pan fyddant yn cerdded ar ein llwybrau o amgylch y cronfeydd dŵr.

Nid oes tarmac ar y llwybrau y tu hwnt i’r mannau i gerddwyr o amgylch y ganolfan ymwelwyr a’r meysydd parcio. Gan fod y safle wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, i gydymffurfio â’r fanyleb ar gyfer safleoedd o’r fath, mae’r llwybrau yn rhai graean wedi’u cywasgu a allai lenwi â dŵr pan fo’n glawio gan greu pyllau.

O ystyried sensitifrwydd ecolegol y banciau porfa, ni ddylai cerddwyr adael y llwybrau i osgoi sefyll mewn pyllau dŵr, felly y cyngor yw i wisgo bŵts neu esgidiau glaw.


Cylch Cronfa Ddŵr Llanisien

Mae’r daith gylchol hon o amgylch y gronfa ar agor trwy gydol y flwyddyn ac mae’n addas i gadeiriau olwyn. Dilynwch y llwybr sy’n mynd tua’r de-orllewin o’r Ganolfan Ymwelwyr tuag at yr hen lithrffordd, a dilynwch y llwybr uchaf sydd agosaf at y gronfa. Parhewch heibio i’r pontŵn ar eich chwith ac ymlaen heibio i’r nenbont ar y dde nes bod y llwybr yn troi tua’r dwyrain. Bydd Coedwig Rhyd-y-pennau ar y dde. Wrth gornel de-ddwyreiniol y gronfa, mae’r llwybr yn troi tua’r gogledd. Dilynwch y llwybr hwn nes cyrraedd yr arglawdd rhwng Cronfa Ddŵr Llys-faen a Chronfa Ddŵr Llanisien, a mwynhewch yr olygfa fendigedig o’r ddwy gronfa o’r fan yma. Parhewch ar hyd yr arglawdd tua’r Ganolfan Ymwelwyr.

Cylch Cronfa Ddŵr Llys-faen

Ar gau dros y gaeaf i amddiffyn yr adar sy’n treulio’r gaeaf yma, mae’r daith gylchol fer yma o amgylch y gronfa’n dechrau ac yn gorffen wrth y Ganolfan Ymwelwyr. Mae hi’n addas i gadeiriau olwyn. Ewch tua’r dwyrain-gogledd-ddwyrain o’r maes parcio gan gadw Coedwig Coed-y-Llwyd ar y chwith a’r gronfa ar y dde. Wrth i’r llwybr wyro tua’r dwyrain, cadwch lygad am ynysoedd yr adar wrth barhau o gwmpas pen pellaf y dŵr. Yn y pendraw, bydd y llwybr yn troi tua’r de, wedyn tua’r de-orllewin, gan barhau heibio i’r guddfan adarydda ac i lwybr isaf yr arglawdd rhwng Cronfa Ddŵr Llys-faen a Chronfa Ddŵr Llanisien, gan fynd yn ôl tua’r Ganolfan Ymwelwyr.

Y Ganolfan Ymwelwyr i Goedwig Rhyd-y-pennau.

Mae’r daith ‘yno ac yn ôl’ yma ar agor trwy gydol y flwyddyn ac mae’n addas i gadeiriau olwyn. Cymrwch y llwybr sy’n mynd tua’r de-orllewin o’r ganolfan ymwelwyr tuag ar yr hen lithrffordd, wedyn dilynwch y llwybr isaf. Ewch tua’r nenbont, heibio i’r waliau cerrig sychion ar y chwith a pharhewch wrth i’r llwybr droi’n gyntaf tua’r de tua Phorth Heol Tywi (Mynedfa i Gerddwyr) wedyn tua’r dwyrain heibio i’r guddfan adarydda a thua’r llwybr lludw, lle cewch droi a mynd yn ôl am y Ganolfan Ymwelwyr. Croeso i chi barhau i fyny’r llwybr lludw ac ymuno â llwybr Cylchol Cronfa Ddŵr Llanisien, ond mae’r llwybr yna’n serth a gallai fod yn anodd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu’r rhai â phroblemau symudedd, yn arbennig yn y gaeaf.

Llwybr Stori Llanisien

Comisiynwyd Llwybr Stori Llanisien gan Dîm Caerdydd sy’n Dda i Blant. Llwybr chwedl rhyngweithiol ar gyfer plant a theuluoedd trwy goedwigoedd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yw hwn. Bydd y llwybr yn mynd â phlant a’u teuluoedd trwy gyfres o arosfannau wedi eu curadu â chodau QR lle gall cerddwyr gyrchu gwahanol benodau o’r stori. Dilynwch y llwybr gan ymgolli ym myd natur a llwytho’r codau QR i ddatgelu’r stori…

• AM FANYLION •

Pwyll Piau Hi

Dylai ymwelwyr nodi bod amgylchedd naturiol hynod o fregus yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, gan gynnwys dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Am hynny, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, gweithgareddau a mynediad er mwyn sicrhau rheolaeth gyfrifol o’r safle. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus i esbonio.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU