Dewch ar y Dŵr

Canŵs a Chaiacs

Hwyl i Bawb

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Canŵio a Chaiacio

Dim ots a ydych chi’n dewis canŵ traddodiadol neu gaiac mwy ystwyth, bydd dyfroedd llonydd Cronfa Ddŵr Llanisien yn cynnig y cefndir perffaith ar gyfer eich antur padlo.

Diogelwch yw’r peth pwysicaf un, ac os nad oes gennych eich offer eich hun, gallwch logi offer gennym ni. Bydd hyfforddwyr a gofalwyr profiadol wrth law hefyd i gynnig cyngor arbenigol ac i sicrhau bod eich antur padlo’n bleserus ac yn ddiogel.

Felly dim ots a ydych chi’n hen law neu’n ddechreuwr chwilfrydig, bydd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn eich croesawu am Antur Dŵr Cymru bythgofiadwy!

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng canŵ a chaiac?

Canŵs dwy sedd yw’n rhai ni, lle’r ydych chi’n eistedd ar sedd sefydlog ac yn cymryd un ochr o’r canŵ yr un i badlo, gyda phadl ag un llafn.

Cwch plastig yw caiac fel rheol ag un, dwy neu dair sedd. Rydych chi’n eich gwthio’ch hun trwy’r dŵr gan ddefnyddio padl â dwy lafn ar y naill ben a’r llall, gan badlo ar y ddwy ochr yn eu tro.

Beth bynnag yw’ch dewis, y peth pwysig yw mynd allan ar y dŵr a mwynhau!

Pwyll Piau Hi

Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r amgylchedd naturiol hynod fregus sydd ar y safle ac yn ei gynnal. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, mynediad a’r mathau o weithgareddau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus iawn i esbonio.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU