Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Canllawiau Mynediad

Lle i chi grwydro

Gan Dŵr Cymru

Canllawiau Mynediad


Nid yw’r canllaw mynediad yn cynnwys barn bersonol o ran pa mor addas ydyn ni ar gyfer pobl ag anghenion mynediad. Ei nod yw disgrifio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn gywir er mwyn helpu ymwelwyr, gan gynnwys y rhai ag anableddau, i gynllunio eu hymweliad.

Cyfarwyddiadau


Am gyngor ar deithio i Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, gan gynnwys cludiant cyhoeddus, ewch i’n tudalen Ble Ydyn Ni.

Meysydd Parcio


Mae’r maes parcio wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr.

Mae saith man parcio ar gael i bobl ag anableddau.

Mae saith man gwefru ceir trydan ar gael.

Mae’r maes parcio a’i beiriannau talu’n hollol hygyrch, gyda llwybrau gwastad a chyrbiau isel.

Mae yna fan llwytho yn union y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr er mwyn gadael teithwyr yn ddiogel.

Mae arwyneb y maes parcio ar un lefel.

Car park at Lisvane & Llanishen Reservoirs
Mannau parcio i bobl anabl.
Llwybr o’r maes parcio i dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr.

Ganolfan Ymwelwyr


Mae prif fynedfa’r ganolfan ymwelwyr wrth ymyl y maes parcio hygyrch.

Mae mynediad gwastad i dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr trwy ddrws awtomatig.

Y tu fewn i’n brif fynedfa mae’r dderbynfa, y grisiau i’r caffi, y lifft i’r caffi, toiled i bobl anabl a choridor sy’n arwain at ein hystafelloedd cyfarfod.

Mae dolen sain ar gael – holwch wrth y dderbynfa.

Mae rhan isaf y dderbynfa 87cm o’r llawr gyda lle clir sy’n caniatáu i gadeiriau olwyn a chymhorthion symudedd fynd yn agos ati.

Main entrance to visitor centre from car park at Lisvane & Llanishen Reservoirs
Prif fynedfa’r ganolfan ymwelwyr.
Lifft yn y dderbynfa

Mae yna ddwy fynedfa arall i lawr isaf y Ganolfan Ymwelwyr – y drws ymyl (nad yw’n fynedfa gyhoeddus) a’r drws ym mhen pellaf y coridor.

Nid oes drysau awtomatig ar fynedfa’r ochr a’r coridor.

Nid oes grisiau i unrhyw un o’r mynedfeydd.

Side entrance from inside corridor at Lisvane & Llanishen Reservoirs
Side-entrance at Lisvane & Llanishen Reservoirs
Ramp entrance to cafe from path at Lisvane & Llanishen Reservoirs

O Gwmpas y Ganolfan Ymwelwyr

Mae arwyneb gwastad ar loriau’r ganolfan ymwelwyr.

Mae llawr concrit llathraidd llyfn ar y llawr isaf, yn ogystal â lloriau o fath linoliwm.

Mae arwyneb patio’r llawr cyntaf o goncrit llathraidd.

Mae lled lleiaf yr holl ddrysau a mannau y tu fewn i’r Ganolfan Ymwelwyr yn addas i gadeiriau olwyn.

Mae arwyddion i ddangos y ffordd yma ac acw ar draws y Ganolfan Ymwelwyr er hwylustod. Mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi ei goleuo’n dda â goleuadau y gellir eu haddasu.


Toiledau

Mae toiledau dynion, menywod, cymysg a hygyrch ar y llawr isaf.

Mae toiledau dynion, menywod a hygyrch ar y llawr cyntaf.

Mae yna doiledau y gellir eu cyrchu o’r tu allan yng nghefn y ganolfan ymwelwyr wrth ymyl y cawodydd allanol.

Mae’r toiledau hygyrch ar y llawr isaf yn cynnwys cyfleusterau newid cewynnau babanod.

Accessible toilet and baby-changing facilities at Lisvane & Llanishen Reservoirs
Accessible outside toilet facilities at Lisvane & Llanishen Reservoirs
Door entrance to toilets at Lisvane & Llanishen Reservoirs Visitor Centre.

Caffi

Mae’r caffi’n fawr ac wedi ei oleuo’n dda.

Mae ffenestri gwydr mawr ar hyd blaen ac ochr y caffi.

Mae drysau llithro a drws awtomatig allan i’r patio.

Gall ymwelwyr archebu wrth y cownter a gall staff gludo bwyd a diod i’r bwrdd.

Mae’r caffi’n gallu bod yn brysur dros ben ac yn swnllyd, ond mae yna seddi ychwanegol ar y patio, sydd eto’n gallu bod yn brysur ond sy’n tueddu i fod yn llai swnllyd.

Mae yna fyrddau safonol â phedair sedd yn ogystal â dwy fainc mwy i eistedd arnynt.

Mae bwydlenni ar y byrddau yn ogystal ag ar y sgriniau uwchben y tiliau.

Mae ramp i’r caffi o fynedfeydd eraill y safle.

Mae bwyd heb glwten / heb gynnyrch llaeth / figan ar gael ac wedi ei labelu.


Ystafelloedd Cyfarfod/Digwyddiadau

Mae tair ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi. Mae dwy o’r tair ystafell ar y llawr gwaelod, a’r llall ar y llawr cyntaf.

Nid oes grisiau i mewn i’r ystafelloedd cyfarfod.

Mae’r drysau i’r ystafelloedd lawr llawr yn agor â llaw ac mae carped ar y llawr. Mae drws yr ystafell ar y llawr cyntaf yn agor â llaw ac mae’r llawr o goncrit llathraidd.

The cafe at Lisvane & Llanishen Reservoirs

Gwasanaethau ac Adnoddau Ychwanegol


Mae yna Gaffi Coffi Cyflym, sy’n gwerthu paneidiau tecawê, bwydydd parod a hufen ia, ar un ochr yr adeilad wrth ymyl yr ardal bicnic a’r toiledau allanol.

Caniateir cŵn yn y maes parcio, y ganolfan ymwelwyr ac ar batio’r caffi ond rhaid eu cadw ar dennyn neu harnais.

Ni chaniateir cŵn yn unrhyw le arall oherwydd statws SoDdGA y safle.

Nid oes yna fan tawel dynodedig. Mae WiFi ar gael.

Mewn Argyfwng


Mae nifer o allanfeydd tân ar y llawr gwaelod ac ar lawr cyntaf y ganolfan ymwelwyr.

Nid oes grisiau i’r allanfeydd tân, heblaw am y grisiau ar batio’r caffi. Mae ramp ar y patio i ddarparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn achos argyfwng.

Mewn argyfwng, y rheolwr sydd ar ddyletswydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl ymwelwyr a staff yn gadael yr adeilad yn ddiogel, a byddant yn helpu pobl os oes angen.

Mae system larwm clywadwy yn y Ganolfan Ymwelwyr, ac mae o leiaf un larwm gweladwy ym mhob ystafell hefyd.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR