Caffi

Bwyta ac Yfed

Coffi Cyflym

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Hysbysiad Ymlaen Llaw Am Gau y Caffi

Bydd y caffi ar gau ar gyfer digwyddiad preifat ar Dydd Iau 7 Medi o 9am-2pm. Bydd y ciosg Bwyd i Fynd yn gweini diodydd a bwyd. Am 2pm bydd y caffi’n agor ar gyfer diodydd/byrbrydau. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

Bwyd a Diod


Mae ein Canolfan Ymwelwyr newydd braf yn cynnig amrywiaeth o opsiynau o ran bwyd a diod.

Neu mae croeso i chi fynd i’r llawr cyntaf i’r ardal fwyta eang golau â ffenestri helaeth hyd y wal sy’n agor allan i’r balconi. Yma gallwch fwyta al-fresco wrth wylio’r chwaraeon dŵr ar y llyn islaw.

Mae’r caffi ar agor bob dydd.

Cofiwch fwrw golwg ar ein bwydlenni sy’n cynnwys prydau arbennig y dydd wedi eu gwneud o gynnyrch tymhorol, ynghyd â’r hen ffefrynnau.

Mae yna Gaffi Coffi Cyflym ar y llawr isaf sy’n gwerthu byrbrydau i’w cludo allan os ydych ar hast neu en route.

Y Caffi


Dewiswch o fyrbryd ysgafn i bryd braf i lenwi’ch bola, a phopeth rhwng y ddau. Mae gennym ‘blatiau bach’ – sy’n brydau syml a rhesymol y gall pawb eu mwynhau, yn hen neu’n ifanc.

Oriau Agor

Gaeaf: Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 9.00am to 4.00pm

Haf: Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 9.00am to 5.00pm

Bwydlenni

• DIODYDD POETH •

• BRECHWAST •

• CINIO •

• CINIO DYDD SUL •

Y Bwyty


Dylem ni i gyd gymryd cysur o bleserau bach bywyd. Gan gadw hynny mewn cof, mae ein bwydlen a’n gwasanaeth gyda’r nos yn cynnig cyfle i fwynhau noson allan â bwyd da yng nghwmni teulu neu ffrindiau.

Ar gael tair noson yr wythnos (nos Iau i nos Sadwrn), mae’r bwyty’n arbenigo mewn cynnyrch tymhorol gan ddarparwyr Cymreig. Yn debyg i’r caffi, mae ein hopsiynau platiau bach yn ddelfrydol i archwaethau llai – neu i’w rhannu!

Oriau Agor

Nos Iau i nos Sadwrn, 6pm i 10pm

Bwcio

Rhaid bwcio byrddau yn y bwyty ymlaen llaw er mwyn cydymffurfio â gofynion ein trwydded.

Ffoniwch 02920 740454 i drefnu.

Byrbrydau


Mae’r Caffi Coffi Cyflym ar lawr gwaelod y Ganolfan Ymwelwyr.

Mae’r paneidiau’n cynnwys te a choffi ffres. Mae’r byrbrydau’n cynnwys pasteiod a rholion selsig cynnes, brechdanau ffres, cawl cynnes a hufen iâ a lolis iâ.

• BEWYDLENNI BWYD I FYND •


Uchafbwyntiau Eraill

Llogi Ystafelloedd

Mae amryw o ystafelloedd ar gael i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd neu achlysuron arbennig…

• AM FANYLION •

Ganolfan Ymwelwyr

Bwciwch weithgareddau, llogwch offer a gwnewch ymholiadau. Darganfyddwch ein hadeilad bendigedig newydd sbon yn edrych dros y cronfeydd…

• AM FANYLION •

Cyfleusterau

Mae gennym lefydd parcio, cyfleusterau llogi offer, toiledau, ystafelloedd newid, canolfan addysg a chwt cychod ar y safle. Am fanylion…

• AM FANYLION •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU