Profiadau Bythgofiadwy

Bwcio ar gyfer Grŵp

Pob Oedran

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Bwcio ar gyfer Grŵp

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yw’r lle delfrydol am ymweliad grŵp, boed gydag ysgol, prifysgol neu yn rhan o ddiwrnod cwrdd i ffwrdd corfforaethol.

Rydyn ni’n croesawu grwpiau Brownis, Geidiaid, Cybs a Sgowtiaid, Dug Caeredin, Merched y Wawr, u3a a grwpiau eraill o bob math. Gyda pharcio am ddim ar y safle wrth drefnu ymlaen llaw, mae croeso i fysiau mini a bysiau bychain. Cysylltwch â ni am fanylion ac i drefnu.

Grwpiau Ysgol

Gallwn deilwra ymweliadau ar gyfer grwpiau ysgol o bob oedran a gallu, gan gynnig offer a hyfforddiant o’r safon uchaf. Mae’r holl raglenni’n cael eu trefnu ar sail anghenion pob grŵp. Mae hyn yn gallu cynnwys cyfuniad o weithgareddau neu gyrsiau e.e. i ennill cymwysterau corff llywodraethu.

Manylion Bwcio

Rhaid bwcio ymlaen llaw, i holi ac i drafod yr holl opsiynau ar gyfer ymweliad ffoniwch 44 (0) 2920 740454 neu e-bostiwch lisvaneandllanishen@dwrcymru.com

Pwyll Piau Hi

Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r amgylchedd naturiol hynod fregus sydd ar y safle ac yn ei gynnal. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, mynediad a’r mathau o weithgareddau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus iawn i esbonio.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU