
Bydd y rhan o Heol Llys-faen rhwng Heol y Felin a South Rise ar gau ddydd Sul 30 Gorffennaf tra bydd contractwyr OpenReach yn gwneud gwaith. Dylai ymwelwyr mewn ceir â Chronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ddydd Sul, yn enwedig o orllewin Caerdydd, adael mwy o amser ar gyfer y daith a dilyn yr arwyddion dargyfeirio.
Er mwyn yr amgylchedd, dylai ymwelwyr ystyried gadael eu ceir gartref a cherdded, beicio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus.
Cyfeirnod Grid ST 18493 82325
What3Words ///flute.escape.perky
Lledred/Hydred 51.533943, -3.176423
Mapio Google: Lisvane & Llanishen Reservoirs
CF14 0BB – Dylid nodi bod cod post y safle’n newydd sbon eleni ac mae’n annhebygol o fod wedi ei ddiweddaru ar systemau llywio â lloeren. Am y tro, byddem yn eich cynghori i beidio â defnyddio’r cod post at ddibenion llywio â lloeren, a defnyddio un o’r dewisiadau eraill uchod yn lle.
Yn ogystal â’r brif fynedfa ar Heol Llys-faen, mae yna dair mynedfa arall i gerddwyr ar Heol Tywi (y gornel dde-orllewinol), Heol Rhydypennau (y gornel de-ddwyreiniol) a Gât y Black Oak (yr ochr ddwyreiniol).
Mae Llwybr Nant Fawr yn rhedeg i’r dwyrain i Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ac mae’n cysylltu Gerddi Waterloo yn y Rhath â Chlwb Golff Llanisien yn y gogledd. Mae’n croesi’r fynedfa i gerddwyr ger Gât Rhydypennau a Gât y Black Oak.
Mae’r llwybr ag arwyddbyst sy’n dod agosaf at Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien o ardal Cathays yng nghanol Caerdydd yn rhedeg o dafarn yr Heath ar Heol yr Eglwys Newydd, ar hyd Heol Allensbank, Ffordd Ddwyreiniol y Brenin Siôr V heibio i Orsaf Lefel Isaf y Mynydd Bychan gan gyrraedd Heol yr Orsaf ar hyd Crystal Glen, Heol Abergwaun a Heol Fidlas.
Ar ôl gadael y llwybr ag arwyddbyst, parhewch tua’r dwyrain ar Heol yr Orsaf, sy’n troi yn Heol Llys-faen. Ewch heibio i Heol South Rise a chymerwch y troad nesaf ar y dde i mewn i safle Llys-faen a Llanisien.
Mae digonedd o le i barcio beics ger y ganolfan ymwelwyr gyda storfeydd wrth y tair mynedfa i gerddwyr hefyd (gweler uchod).
Ni chaniateir beicio yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien oherwydd bod y llwybrau cerdded cul o amgylch y cronfeydd dŵr yn anaddas i gerddwyr a beicwyr eu rhannu.
Gan fod gan y safle statws SoDdGA, cafwyd caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer llwybrau cerdded 2 fetr o led yn unig, i leihau cymaint â phosibl yr effaith ar ffwng cap-cwyr. Yn anffodus, nid yw’r llwybr cerdded 2m o led yn caniatáu i feiciau basio yn ddiogel. Y lleiafswm a argymhellir ar gyfer lled llwybr dwyffordd a rennir yw 3m.
Rydym wedi darparu mannau parcio beiciau wrth bob mynedfa i’r safle ac mae croeso i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau a cherdded gyda nhw drwy’r safle.
Cofiwch, mae gan gynllun rhannu beics Caerdydd safleoedd ym Mhentref Llanisien, Canolfan Hamdden Llanisien a Heol Rhydypennau, sydd oll dafliad carreg o’r cronfeydd.
Mae’r beics o safon uchel yn cynnig gwerth da am arian, ac mae ganddynt safleoedd ar draws y ddinas.
15 munud o Orsaf Canolog Caerdydd + 7 munud o gerdded
Ar Linell Cwm Rhymni (Canol Caerdydd – Caerffili – Bargoed – Rhymni), daliwch y trên i Orsaf Llanisien. Ar ôl dod oddi ar y trên, cerddwch tua’r de i gyffordd Heol yr Orsaf, trowch i’r chwith a dilynwch Heol yr Orsaf nes iddi droi’n Heol Llys-faen. Cerddwch heibio i gyffordd South Rise a chymerwch y troad nesaf ar y dde i safle Llys-faen a Llanisien.
O Ganol y Ddinas / Siop Sainsbury y Ddraenen
40 munud
Daliwch fws Rhif 86 o Heol y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd neu o’r tu allan i siop Sainsbury, y Ddraenen. Dewch oddi ar y bws ar safle Llys-faen (Woodside Court / South Rise). Gofynnwch i’r gyrrwr os ydych chi’n ansicr. Mae mynedfa safle Llys-faen a Llanisien ar ochr ddeheuol y ffordd.
O Ganol y Ddinas
25 munud + 15 munud o gerdded
Daliwch fws Rhif 28/28A/28B o Heol Pont yr Aes ac arhoswch ar y bws nes cyrraedd safle Banc y NatWest, wrth ymyl Llyfrgell Llanisien.
Oddi yma, cerddwch tua’r dwyrain ar Heol yr Orsaf, sy’n troi yn Heol Llys-faen. Ewch heibio i Heol South Rise a chymerwch y troad nesaf ar y dde i safle Llys-faen a Llanisien.
O Ganol y Ddinas
45 munud + 2 munud o gerdded
Daliwch fws Rhif 51 o Heol y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd i Bentref Cyncoed. Dilynwch Heol Rhydypennau tua’r de-orllewin o’r gylchfan. Mae’r fynedfa i gerddwyr tua 475 llath / 145 metr i ffwrdd ar y dde.
O Ganol y Ddinas
15 munud + 2 munud o gerdded
Daliwch fws Rhif 52 o Heol y Tollty JG i Bentref Cyncoed. Dilynwch Heol Rhydypennau tua’r de-orllewin o’r gylchfan. Mae’r fynedfa i gerddwyr tua 475 llath / 145 metr i ffwrdd ar y dde
O Ganol y Ddinas
30 munud + 2 munud o gerdded
Daliwch fws Rhif 53 o Heol y Brodyr Llwydion yng Nghaerdydd. Ym Mhentref Cyncoed, dilynwch Heol Rhydypennau. Mae’r fynedfa i gerddwyr tua 125 llath / 115 metr i ffwrdd ar y dde
Rydyn ni’n annog ymwelwyr sy’n teithio mewn car o’r tu hwnt i Gaerdydd i barcio yng nghanol y ddinas a theithio i’r safle mewn cludiant cyhoeddus neu ar gefn beic lle bo modd.
Wrth yrru, y ffordd orau o gyrraedd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yw defnyddio’r M4. Gadewch yr M4 wrth gyffordd 30 gan ymuno â Ffordd Gyswllt Pentwyn. Wrth y gylchfan, cymrwch y trydydd troad i Heol Pontprennau. Arhoswch ar Heol Pontprennau nes cyrraedd cyffordd y gylchfan â Heol Glandulais, cymerwch y trydydd droad i ddilyn y B4562. Arhoswch ar y B4562 nes cyrraedd y troad (gan ddilyn yr arwyddion).
Croeso i yrwyr Anabl (Bathodyn Glas) ddefnyddio’r mannau parcio pwrpasol y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr. Gall gyrwyr ceir trydan barcio yn un o’r saith man parcio a gwefru eu ceir. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â pharcio yn y strydoedd preswyl cyfagos.