
Mae nifer gynyddol o Anturiaethau eraill Dŵr Cymru i’w cael ar draws Cymru.
Mae pob un ym mherchnogaeth ac yng ngofal Dŵr Cymru i chi eu mwynhau. Maen nhw’n hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden, sy’n eich ailgysylltu â byd natur a’r dŵr. Mae’r rhain yn rhai o’r lleoliadau mwyaf bendigedig, maen nhw’n cynnig mynediad am ddim ac yn agored trwy gydol y flwyddyn.
Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru nesaf.
Mae Dŵr Cymru’n gweithredu 91 cronfa ddŵr o bob maint, o 2 i 1,026 erw. Mae’r rhain yn cynnwys portffolio o Atyniadau Ymwelwyr o’r enw ‘Anturiaethau Dŵr Cymru’. Hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden ydyn nhw. Maen nhw’n ailgysylltu pobl â dŵr a’r amgylchedd wrth gynnal, amddiffyn a chyfoethogi gwerth ecolegol pob safle.
Dŵr Cymru yw’r mwyaf ond pump o ddeg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr. ‘Cwmni nid-er-elw’ yw Dŵr Cymru sy’n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo. Felly mae’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.
Wrth galon prydferthwch Dyffryn Gwy, cwta 20 milltir o Gaerdydd, Llyn Llandegfedd yw’r lle delfrydol i fwynhau chwaraeon dŵr, pysgota, cerdded, gwylio bywyd gwyllt a chael picnic. Y lle delfrydol i fynd â’ch ci am dro am fod croeso i gŵn fwynhau’r golygfeydd bendigedig o falconi’r bwyty neu orffwys eu pawennau yn y Caffi Coffi Cyflym.
Mae Llyn Llys-y-Frân yn cynnig dros 350 erw i ymwelwyr eu crwydro ar droed wrth fynd â’u cŵn am dro, ar gefn beic neu allan ar y dŵr. Mae’r safle’n agored trwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnig mynediad am ddim. Mae’r safle’n cynnig canolfan ymwelwyr a chaffi sydd wedi cael eu hailwampio, canolfan gweithgareddau awyr agored newydd sbon, llwybrau beicio sy’n igam-ogamu trwy’r goedwig a thrac sgiliau pympio newydd. Mae cawodydd, cyfleusterau newid ac ystafelloedd cyfarfod â golygfeydd bendigedig ar gael ar y safle hefyd.
Safle gwirioneddol arbennig â choedwig a physgodfa frithyll, cyfleusterau llogi beics, maes chwarae antur, canolfan ymwelwyr a chaffi â golygfeydd di-ben-draw o’r balconi. Mae Llyn Brenig yn gartref i weilch y dŵr prin sy’n nythu ar y safle rhwng Ebrill a diwedd Awst. Gyda 23km o lannau’n ymestyn o gwmpas un o ddyfroedd mewndirol mwyaf Cymru, hwn yw un o bysgodfeydd pen-dŵr gorau’r DU.
Wrth galon Mynyddoedd Cambria, mae prydferthwch Cwm Elan yn ymestyn dros 72 milltir sgwâr o olygfeydd godidog. Mae’r dirwedd naturiol, sy’n gartref i fwrlwm o blanhigion a bywyd gwyllt hyd yn oed yn fwy arbennig diolch i’w argaeau o Oes Fictoria, y cronfeydd dŵr a’r Ganolfan Ymwelwyr groesawgar. Fel Parc Awyr Dywyll Rhyngwladool, mae prydferthwhc naturiol Cwm Elan yn disgleirio ddydd a nos.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag amryw o gymunedau a sefydliadau gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i greu hybiau ar gyfer hamdden, iechyd a lles. Gan gyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac ‘adferiad gwyrdd’ yng Nghymru.
Lleolir Cronfeydd Dŵr Cwm Lliedi ar gyfrion Llanelli yn Sir Gâr, ac maen nhw’n lle prydferth a phoblogaidd. Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi mabwysiadu’r safle’n ddiweddar yn rhan o gynllun mabwysiadu cymunedol arloesol.
Mae Cronfeydd Dŵr Lliw yn safle o brydferthwch naturiol eithriadol ac yn rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, un o’r ardalodd tirwedd o gymeriad arbennig sy’n diffinio Cymru. Mae caffi, siop fach a thoiledau ar y safle.
Llyn Alaw yw llyn dŵr croyw mwyaf Môn. Mae’r safle o ddiddordeb arbennig i adaryddwyr ac mae’n SoDdGA am yr adar sy’n treulio’r gaeaf yno, corhwyaid, hwyaid llydanbog a’r elyrch gwyllt.
Casgliad ehangaf y DU o bympiau ac injanau gweithredol o bob rhan o Sir Henffordd, y siroedd cyfagos a Chymru, yr enghreifftiau gweithredol olaf o’u math yw’r rhan fwyaf ohonynt.
Mae Llyn Brianne’n un o naw Safle Darganfod Awyr Dywyll o Safon Llwybr Llaethog ym Mynyddoedd Cambria, ac mae awyr y nos yno gyda’r mwyaf tywyll yn Ewrop.