Anturiaethau Dŵr

Dewch Allan ar y Dŵr

Anturiaethau Dŵr

Dewch Allan ar y Dŵr

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Gweithgareddau Dŵr


Hen gronfa cyflenwi dŵr yw Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ym maestrefi gogledd Caerdydd, cwta ychydig filltiroedd o ganol y ddinas.

Mae’r gweithgareddau dŵr sydd ar gael ar y safle’n cynnwys canwio a chaiacio.

Yr unig bwynt mynediad i’r dŵr yw’r pontŵn ar Gronfa Ddŵr Llanisien.

Y Diweddaraf am Gosfa’r Nofiwr

21 Medi 2023

Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi y bydd nofio dŵr agored a llogi rhwyf-fyrddau’n ailgychwyn o dydd Mercher, 6 Medi ymlaen. Diolch i chi am eich amynedd wrth i ni ymchwilio i ddigwyddiad posibl o gosfa’r nofiwr.


Mae gwaith monitro rheolaidd yn dangos bod ansawdd y dŵr yn ardderchog yng Nghronfa Ddŵr Llanisien. Ond ffeindiwyd un math o fwydyn microsgopig naturiol yn y gronfa a allai achosi anhwylder o’r enw ‘cosfa’r nofiwr’.

Beth yw cosfa’r nofiwr?

Mar cosfa’r nofiwr, neu dermatitis cercariaidd, yn ymddangos ar ffurf llid neu frech ysgafn ar y croen. Mae’n cael ei achosi gan adwaith alergaidd i fathau penodol o fwydod microscopaidd sy’n heintio rhai adar a mamaliaid. Malwod wedi’u heintio sy’n rhyddhau’r mwydod hyn i ddŵr croyw a dŵr hallt (fel llynnoedd, pyllau a chefnforoedd). Mae cosfa’r nofiwr yn gyffredin ledled y byd ac mae’n fwy cyffredin dros fisoedd yr haf.

I leihau’r risg o gosfa’r nofiwr

Symudwyd y cwrs nofio a’r man lansio o’r dŵr bas i ddŵr oerach a dyfnach.

Ar gyfer sesiynau nofio dŵr agored a gweithgareddau lle mae yna risg uchel o ymdrochi, fel llogi rhwyf-fwrdd, rhaid i ddefnyddwyr gymryd y rhagofalon canlynol:

— gwisgo siwt wlyb hyd llawn a chap nofio

— gorchuddio unrhyw friwiau a chrafiadau â phlaster diddos

— golchi unrhyw friwiau cyn gynted â phosibl ar ôl dod allan o’r dŵr

— ceisio peidio â llyncu’r dŵr

— cael cawod gynnes gyda sebon yn syth ar ôl dod allan o’r dŵr, a defnyddio tywel i sychu’n ofalus

Beth yw arwyddion a symptomau cosfa’r nofiwr?

Mae rhai pobl yn fwy tueddol o ddioddef nag eraill. Mae ychydig bach fel mosgitos sy’n dueddol o fynd ar ôl rhai pobl yn fwy na’r lleill. Gall y symptomau gynnwys:

— teimlad o binnau bach, llosgi neu gosi ar y croen

— plorod bach cochlyd neu bothelli bach

Am taw adwaith alergaidd sy’n achosi cosfa’r nofiwr, os cewch eich datguddio i’r mwydyn drosodd a thro, gallech ddioddef symptomau mwy difrifol.

Er ei bod yn ddiflas, ni fydd y symptomau’n para mwy nag ychydig ddyddiau ar y cyfan, ond gallant bara’n hirach. Er ei fod yn anghyffyrddus, nid yw’r cosi yn para mwy na chwpl o ddyddiau fel rheol. Ni allwch ledu’r frech i bobl eraill, ac nid oes angen triniaeth. Os oes cosfa’r nofiwr arnoch, mae hi’n bwysig peidio â chrafu – gall crafu achosi haint yn y frech. Gallai meddyginiaeth dros y cownter helpu i liniaru/lleihau symptomau fel cosi – siaradwch â’ch fferyllydd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall os oes angen cyngor arnoch.


Gwneir chwaraeon ddŵr yn llwyr ar risg y rhai sy’n cymryd rhan.

Mae hi’n bwysig cofio nad cosfa’r nofiwr yw’r unig beth sy’n gallu achosi brech neu beri i chi deimlo’n sâl ar ôl dod i gysylltiad â’r dŵr agored. Ceisiwch gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol os ydych chi’n teimlo’n sâl ar ôl dod i gysylltiad â dŵr agored, neu os oes gennych symptomau na allwch eu hesbonio neu sy’n gwaethygu.


I gael rhagor o fanylion am Gosfa’r Nofiwr yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, darllenwch ein datganiad yma.

Dewiswch eich Antur Dŵr


Yn y Ganolfan Ymwelwyr, mae ystafelloedd newid â chawodydd cynnes, a lle braf i hel eich gwynt a chael tamaid yng nghaffi’r Ganolfan Ymwelwyr.

Byddwch chi’n casglu’ch bad llogi ac yn cwrdd â’ch hyfforddwr yn y Cwt Cychod sydd ar wahân i’r prif adeilad.

Os yw hyn yn apelio atoch chi, sgroliwch i lawr i ddewis eich antur dŵr …

Gweithgareddau Gwyliau Ysgol (Ar gael cyn hir)

Pwyll Piau Hi

Mae ein holl weithgareddau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno mewn ffordd sy’n gweithio gyda’r amgylchedd naturiol hynod fregus sydd ar y safle ac yn ei gynnal. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cyfyngu ar niferoedd, mynediad a’r mathau o weithgareddau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen yn cael ei chyflawni mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, byddai ein tîm yn hapus iawn i esbonio.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU