
Ein Stori
Cymrodd Dŵr Cymru awenau cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn 2016 – a daethom yn warcheidwaid hanes a threftadaeth hynod y safle.
Adeiladwyd y tirnod hwn ddiwedd y 19eg ganrif yn Oes Fictoria. Mae’n ymestyn dros 110 erw o dir gwyrdd a glas ac mae’n gartref i gyfoeth o fflora a ffawna – yn werddon o heddwch ond ychydig filltiroedd o ganol dinas Caerdydd.
Dynodwyd Cronfa Ddŵr Llys-faen yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd yr adar sy’n dod i dreulio’r gaeaf yma; a dynodwyd argloddiau’r ddwy gronfa’n SoDdGA am eu ffwng cap cwyr. Dynodwyd llawer o’r glaswelltir a’r coetiroedd prysgwydd y tu hwnt i’r SoDdGA yn Safleoedd o Bwys er Cadwraeth Natur (SoBeC).
Wrth werthfawrogi pwysigrwydd ecolegol y safle, rydyn ni wedi sylweddoli potensial y safle fel hyb ar gyfer hamdden, iechyd a llesiant hefyd. Rydyn ni wedi ymdrechu i greu ardal yn ein prifddinas fywiog lle gall pobl ymgolli yn y dŵr a’n hamgylchedd prydferth. Ein nod yw sicrhau cymaint o fynediad i’r cyhoedd â phosibl wrth amddiffyn a chyfoethogi ecoleg y safle.
Cyflawnwyd ailddatblygiad y safle mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac ar sail adborth y gymuned leol.