
Mae Dŵr Cymru wedi adfer, ailddatblygu ac ailagor Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien i’r cyhoedd gyda phwyslais ar weithgareddau hamdden a chynnal bioamrywiaeth.
Mae adfer y cronfeydd a’u dychwelyd i ddefnydd gweithredol fel y gellir eu mwynhau am ddegawdau i ddod wedi bod yn gyfle unigryw.
Mae ecolegwyr wedi goruchwylio pob cam o’r gwaith yma er mwyn lleihau effaith y datblygiad ac amddiffyn yr holl fywyd gwyllt eiconaidd – o’r ffwng cap cwyr i’r adar sy’n treulio’r gaeaf yma.
Clirio llystyfiant o’r ddwy gronfa
Trwsio’r wyneb cerrig y tu fewn i wal yr argae yng nghronfa ddŵr Llanisien
Trwsio ac adnewyddu’r falfiau a’r pibellau sy’n angenrheidiol i weithredu’r cronfeydd yn ddiogel
Adfer y ffens o amgylch y safle
Draenio cronfa ddŵr Llanisien er mwyn ei harchwilio’n fanwl cyn ei hadlenwi’n ddiogel
Cyflwyno trefn lladd gwaith newydd ar gyfer argloddiau’r cronfeydd er mwyn cyfoethogi’r glaswelltir ar gyfer y ffwng cap cwyr.
Yn ogystal â buddsoddiad Dŵr Cymru yn yr amwynderau newydd i ymwelwyr, bu adferiad ac ailddatblygiad Llys-faen a Llanisien yn bosibl diolch i’r prosiectau a ariennir a’r gwaith ar y cyd â’r partneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol canlynol.
Mae’r prosiect yma wedi cynnig gweithgareddau er lles iechyd pobl sy’n helpu i gyfoethogi amgylchedd a bioamrywiaeth y safle hefyd. Mae hyn yn cynnwys llwybrau newydd, cuddfannau adarydda, cysylltiadau â’r gymuned a chyfleoedd presgripsiynu cymdeithasol.
Cafodd Coedwig Gwern-y-Bendy a rhan o Goedwigoedd Rhyd-y-Pennau eu hadfer a’u cyfoethogi fel y gallant lewyrchu am ddegawdau i ddod.
Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru
Y Grŵp Gweithredu dros y Gronfa
Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd
Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Pobl a Lleoedd
Dysgwch pryd cafodd y cronfeydd dŵr eu hadeiladu a pham. Beth oedd Cynllun Taf Fawr a pham cafodd y cronfeydd eu dadgomisiynu?
• AM FANYLION •Llwybrau natur, grŵp Cyfeillion, rhaglen cysylltu’r gymuned a chyfleoedd presgripsiynau cymdeithasol ar gyfer cyfleoedd iechyd a lles yng Nghaerdydd.
• AM FANYLION •Oeddech chi’n gwybod fod yna dŷ crwn Cymreig pwrpasol ar y safle yn rhan o’n darpariaeth addysg helaeth yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien?
• AM FANYLION •