Hafan

Adarydda

yng Nghaerdydd

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Adar Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Diolch i’r cymysgedd o gynefinoedd coetir, glaswelltir a glan dŵr, mae’r ardal yma’n gyfoeth o adar.

Mae’r statws SoDdGA yn amddiffyn yr adar dŵr sy’n dod i dreulio’r gaeaf yma, a dyna pam fod Cronfa Ddŵr Llys-faen a’r llwybrau sy’n ei hamgylchynu ar gau rhwng Hydref a Mawrth.

Yn ogystal ag adar dŵr, mae amrywiaeth o adar yn nythu yn y coetiroedd a’r perthi sy’n amgylchynu’r cronfeydd, ac yn enwedig adar cyffredin yr ardd fel y titw tomos las, y titw mawr, y robin, y frân dyddyn, y ji-binc, y gwyrdd-binc a’r eurbinc.

Adar sydd i’w Gweld yn y Gaeaf

Mae’r rhywogaethau a welwyd ar y safle’n cynnwys y wyach fawr gopog, yr wyach leiaf, yr hwyaden gopog, yr hwyaden bengoch, yr hwyaden wyllt, y gwtiar, iâr fach y dŵr, yr wylan benddu, yr wylan lwyd, yr wylan gefnddu leiaf, gwylan y gweunydd, y fulfran, yr alarch dof, a’r siglen lwyd.

Ymysg y rhywogaethau eraill a welir yn aml mae gŵydd Canada, y chwiwell, y corhwyaden, y crëir glas, yr hwyaden lydanbig, yr hwyaden lygad aur, yr wylan gefnddu, glas y dorlan, y gnocell fraith, y gnocell werdd, y siglen fraith, caseg y ddrycin, yr asgell goch, y gwalch glas, y bwncath, y dylluan frech a’r gigfran.

Adar sydd i’w Gweld yn yr Haf

Ymhlith y rhywogaethau sy’n dod i fridio yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien dros yr haf mae gwennol y glennydd, y wennol, gwennol y bondo, y llwydfron, pibydd cynffonfain, y cap du, y dryw felen a’r dryw wen.

Cuddfan Adarydda

Mae guddfan adarydda ar ochr ogleddol Cronfa Ddŵr Llys-faen, cyfle i adaryddwyr wylio adar y dŵr yn dawel bach dan gudd.

Ynysoedd Adar

Gosodwyd y strwythurau arbennig yma ar Gronfa Ddŵr Llys-faen i greu lle tawel i’r adar dŵr fridio neu glwydo mewn heddwch.

Uchafbwyntiau Natur a Bywyd Gwyllt

Ffwng

Mae argloddiau Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien o ddiddordeb arbennig am eu poblogaethau sylweddol o ffwng glaswelltir, ac yn arbennig y cap cwyr prin.

• AM FANYLION •

Planhigion a Phryfed

Mae blodau gwyllt yn llewyrchu yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, fel roedden nhw’n arfer ei wneud yn y dolydd gwair ers lawer dydd, ac maen nhw’n denu amrywiaeth o bryfed, yn enwedig gloÿnnod byw.

• AM FANYLION •

Y Coetir

Crwydrwch ein llwybrau natur yn y coetir lled-hynafol a’r coetir mwy diweddar ar y safle. Holwch am ein parth addysg a’n Hafan Bywyd Gwyllt…

• AM FANYLION •

Uchafbwyntiau Natur a Bywyd Gwyllt

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn rhan annatod o seilwaith gwyrdd a glas Caerdydd ac maent o werth ecolegol bendigedig yn arbennig o ran ffwng a’r adar sy’n dod i dreulio’r gaeaf yma.

• AM FANYLION •

Pwyll Piau Hi

I’n helpu ni i amddiffyn yr holl adar yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, cymrwch ofal wrth gerdded o gwmpas y safle.

Cadwch at y llwybrau bob amser a pheidiwch â mynd ar y glaswellt.

Nodwch y llwybrau sydd ar gau yn dymhorol.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU