Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Anturiaethau

Dŵr Cymru

Gwledd Nadolig

Cwch Cyflym Siôn Corn

Dŵr Cymru

• DARLLEN MWY •

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Anturiaethau

Dŵr Cymru

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Anturiaethau

Dŵr Cymru

Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien

Anturiaethau

Dŵr Cymru

Cronfeydd dŵr eiconaidd Caerdydd

Gan Dŵr Cymru

Heol Llaneirwg ar Gau  |  23 Hydref – 3 Tachwedd

Mae Heol Llaneirwg ar gau rhwng cyffyrdd Heol Tŷ Draw a Heol Glandulais tan 3 Tachwedd.

Mae copi o lwybr y gwyriad YMA.

Bydd y gwyriad yn parhau trwy gydol y gwaith a bydd arwyddion clir i ddangos y ffordd.

Dylai pobl sy’n ymweld â Chronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, yn enwedig o orllewin Caerdydd, adael mwy o amser ar gyfer eu siwrnai a dilyn yr arwyddion dargyfeirio.

Croeso i Gronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien


Darganfyddwch ein canolfan ymwelwyr, caffi a hyb addysg newydd sbon, yn ogystal â llwybrau natur, chwaraeon dŵr a gweithgareddau hamdden eraill. Ar agor trwy gydol y flwyddyn, dewiswch eich Antur Dŵr Cymru heddiw.

Uchafbwyntiau


Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid a’r gymuned leol i greu hyb ar gyfer iechyd a lles, wrth amddiffyn a chyfoethogi bioamrywiaeth y safle.


Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn adnodd naturiol o bwys ecolegol sylweddol ac mae’n cwmpasu dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), y naill am ei ffwng cap cwyr a’r llall am yr adar sy’n treulio’r gaeaf yno.


Mae sesiynau nofio dŵr agored yn rhan o’r rhaglen chwaraeon dŵr yng Nghronfa Ddŵr Llanisien, sy’n cynnwys hwylio, canŵio caiacio a rhwyf-fyrddio hefyd.  


Mae ein canolfan ymwelwyr deulawr newydd sbon yn cynnig golygfeydd godidog dros y cronfeydd ynghyd â phrofiad bwyd neilltuol.


Natur

Mae cymysgedd o gynefinoedd coetir, gweirglodd a glan dŵr yn golygu bod yr ardal yn gyfoeth o fywyd gwyllt. Dysgwch am yr adar, y planhigion, y pryfed a’r ffwng toreithiog sy’n byw o gwmpas y cronfeydd dŵr.

• AM FANYLION •

Y Ganolfan Ymwelwyr

Ar agor bob dydd gyda chaffi, ystafelloedd cyfarfod, hyb gweithgareddau, desg gwybodaeth, toiledau, storfeydd beics, parcio cyfyngedig a wi-fi am ddim…

• AM FANYLION •

Anturiaethau Dŵr

Gyda dŵr glân, dwfn, a heb lanw, Cronfa Ddŵr Llanisien yw’r lle perffaith ar gyfer chwaraeon dŵr fel caiacio, canŵio, rhwyf-fyrddio a nofio dŵr agored…

• AM FANYLION •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU